- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 19 Rhagfyr 2002 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Mae hefyd yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2003 y darpariaethau hynny a bennir yn Rhan II o'r Atodlen, ac ar 1 Medi 2003 y darpariaethau hynny a bennir yn Rhan III o'r Atodlen. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â threfniadau derbyn.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen—
Mae adran 49 yn diddymu adran 91 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n caniatáu i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol iddi wneud trefniadau arbennig yn ei threfniadau derbyn er mwyn cadw'i chymeriad crefyddol.
Mae adrannau 54 i 56 ac Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ysgolion sy'n peri pryder. Mae adran 54 yn mewnosod adran 16A newydd o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) os yw arolygydd o'r farn fod gan ysgol wendidau difrifol neu fod angen mesurau arbennig arni. Mae adran 55 yn diwygio adran 15 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) sy'n nodi'r achosion pan gaiff AALl ddefnyddio'u pwerau ymyrryd. Mae'r diwygiadau'n darparu bod adran 15 o Ddeddf 1998 yn gymwys i ysgolion sydd â gwendidau difrifol neu sydd angen mesurau arbennig ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei hysbysu o dan adran 16A o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996. Mae adran 56 yn diwygio adrannau 18 a 19 o Ddeddf 1998 er mwyn darparu bod pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i benodi llywodraethwyr ychwanegol a chyfarwyddo AALl i gau ysgol yn gymwys i ysgolion sydd â gwendidau difrifol yn ogystal â'r rhai sydd angen mesurau arbennig. Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1998 o ganlyniad i adrannau 55 a 56.
Mae adran 75 ac Atodlen 10, paragraffau 1,6,11 a 15 yn diwygio Atodlen 6 i Ddeddf 1998 ac Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, er mwyn darparu nad yw cynigion i sefydlu, newid neu gau ysgolion, neu gynigion sy'n ymwneud â chweched dosbarth annigonol, a gymeradwyir yn amodol gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael eu trin fel rhai gwrthodedig os nad yw'r amod yn cael ei fodloni, ond eu bod i gael eu hystyried o'r newydd.
Mae adrannau 97, 98, 99(1), 100 (ac eithrio is-adrannau (1)(b), (2)(b) a (5)), 101 (ac eithrio is-adran (3)(b)), 103, 105 i 107, 108 (ac eithrio is-adrannau (1)(a), (2) a (6)), 109, 111 i 118 yn ailddeddfu darpariaethau yn Neddf Addysg 1996 mewn perthynas â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer Cwricwlwm Cenedlaethol ar wahân ar gyfer Cymru. Dygir y darpariaethau i rym ac eithrio mewn perthynas â'r cyfnod sylfaen newydd a ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae adran 131 yn ailddeddfu a diweddaru adran 49 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986, ac mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i werthuso perfformiad athrawon.
Mae adrannau 132, 133, 134(1), (4) a (5), 135, 141 a 145 yn ymwneud â chymwysterau athrawon. Mae adran 132 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau i benderfynu pwy sydd yn athro neu athrawes gymwysedig ac yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae adran 133 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i nodi mewn rheoliadau y gwaith na all ond athrawon cymwysedig neu bersonau penodedig eraill ei gyflawni. Mae adran 134(1), (4) a (5) yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod athrawon cymwysedig yn cofrestru gyda'r Cyngor cyn cyflawni gwaith penodedig. Mae adran 135 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid fod yn athrawon cymwysedig ac yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid a benodir ar ôl y dyddiad cychwyn ddal cymhwyster penodedig. Mae adran 141 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon fodloni amodau mewn perthynas â'u hiechyd a'u gallu corfforol. Mae adran 145 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â phennu cymwysterau neu gyrsiau.
Mae adran 148 ac Atodlen 12, paragraffau 2, 4(1), (3), 6 a 7 yn diwygio Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â'r Cyngor. Mae'r diwygiadau yn darparu—
ar gyfer estyn swyddogaethau ymgynghorol y Cyngor;
bod y Cyngor i roi sylw i'w wariant ar ei holl swyddogaethau pan fydd yn gosod lefel ei ffioedd; a
bod y Cyngor yn gallu ymgymryd â gweithgareddau i hybu statws y proffesiwn addysgu.
Mae adran 151(2) yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn yn pennu swyddogaethau ychwanegol y mae angen amdanynt i'w alluogi i weithredu cynllun gofal plant o dan Ddeddf Credydau Treth 2002.
Mae adran 152 ac Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) a 8 yn diwygio Deddf Plant 1989, Rhan 10A ac Atodlen 9A, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â chanlyniadau methu â chydsynio i wirio addasrwydd person; effaith atal cofrestriad; y pŵer i ragnodi dyfarniadau ychwanegol a all fod yn destun apêl; hawliau mynediad i arolygwyr awdurdodedig; y pŵer i wneud rheoliadau sy'n hepgor datgymhwyso ar gyfer cofrestru. Gwneir diwygiadau canlyniadol hefyd i Ddeddf yr Heddlu 1997 mewn perthynas â thystysgrifau record droseddol a thystysgrifau record droseddol manwl.
Mae adran 179(1), (4), (5) a (6) yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 i estyn hawl mynediad arolygydd i unrhyw dir neu adeilad y trefnodd ysgol i addysg gael ei darparu yno ar gyfer disgyblion 14—16 oed.
Mae adran 180 yn diwygio Deddf Addysg 1997 er mwyn estyn hawl mynediad arolygydd i gyflawni arolygiadau o dan adran 38 o'r Ddeddf, i dir neu adeiladau lle darperir addysg yn unol â threfniadau AALl i addysgu plant heblaw mewn ysgol.
Mae adran 188 ac Atodlen 16, paragraffau 4 i 9 yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 er mwyn
galluogi'r Prif Arolygydd ddefnyddio aelod o'r Arolygiaeth yn hytrach nag arolygydd cofrestredig i gyflawni arolygiad o dan adran 10 o'r Ddeddf honno, os yw o'r farn ei bod yn hwylus i wneud hynny;
galluogi aelodau o'r Arolygiaeth weithredu fel aelodau o dimau sy'n cynorthwyo arolygwyr cofrestredig mewn arolygiadau ysgolion;
galluogi rheoliadau i bennu personau ychwanegol y mae'n rhaid anfon copïau o adroddiadau arolygiadau ysgolion atynt;
ei gwneud yn ofynnol bod copi o gynllun gweithredu'r ysgol yn cael ei anfon at y Prif Arolygydd dim ond os oes angen mesurau arbennig ar ysgol neu os oes ganddi wendidau difrifol.
Mae adran 189 ac Atodlen 17, paragraffau 5(1) — (4), (6) a 6 i 8 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 er mwyn
estyn swyddogaethau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (“ACCAC”) mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu i blant o dan oedran ysgol gorfodol;
galluogi ACCAC i gymryd i ystyriaeth yr angen i sicrhau nad yw nifer y cymwysterau achrededig mewn meysydd pwnc tebyg neu sy'n gwasanaethu swyddogaethau tebyg yn ormodol;
galluogi ACCAC i osod amodau ar ôl iddo achredu cymwysterau;
estyn hawliau mynediad ac arolygu ACCAC mewn cysylltiad â'i bŵ er i gyfyngu ar faint y ffioedd y gall cyrff dyfarnu eu codi;
rhoi pŵer i ACCAC gyfarwyddo'r cyrff dyfarnu sydd wedi methu, neu sy'n debygol o fethu, cydymffurfio ag amodau achredu.
Mae adrannau 191 i 194 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig. Mae adran 191 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo AALlau i ystyried a allent wneud y ddarpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn fwy effeithiol drwy ddarpariaeth ranbarthol. Mae adran 192 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo AALl neu gorff llywodraethu i wneud cynigion mewn cysylltiad â sefydlu ysgol ranbarthol sy'n darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, neu mewn cysylltiad â'r trefniadau i ddarparu addysg neu nwyddau a gwasanaethau ar sail ranbarthol. Mae adran 193 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbarthol. Mae adran 194 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 1996.
Mae adran 196 yn ei gwneud yn ofynnol i AALl gyhoeddi gwybodaeth a roddir iddo gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu ddarparu gwybodaeth o'r fath i bersonau penodedig.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen—
Mae adrannau 14 i 17 a 18(2) yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cymorth ariannol i unrhyw berson at ddibenion addysgol, at ddibenion sy'n berthnasol i addysg ac at ddibenion sy'n berthnasol i ofal plant.
Mae adrannau 142 i 144 a 146 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chamymddwyn. Mae adran 142 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol, yn gyfamserol â'r Ysgrifennydd Gwladol, i wneud cyfarwyddiadau yn gwahardd person rhag gweithio mewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach neu awdurdodau addysg lleol ar sail camymddwyn, iechyd, anaddasrwydd i weithio gyda phlant, neu mewn perthynas ag ysgolion annibynnol, ar sail anghymwysedd proffesiynol. Mae adran 143 yn gosod dyletswyddau ar gyrff, megis asiantaethau cyflenwi, i drefnu nad yw person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd yn cyflawni gwaith a fyddai'n groes iddo. Mae adran 144 yn darparu bod hawliau apêl yn erbyn gwneud y cyfarwyddiadau hynny. Cychwynnir adran 146 ond er mwyn diddymu darpariaethau yn adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 sy'n ymwneud â chamymddwyn.
Mae adran 148 ac Atodlen 12, paragraff 12(1) a (2) yn diwygio Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 er mwyn galluogi'r Cyngor i glymu amodau wrth y gorchmynion atal y mae'n eu gwneud mewn achosion disgyblu.
Mae adrannau 149 a 150 yn diwygio adrannau 118 i 121 o Ddeddf 1998 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r AALl weithredu adolygiadau blynyddol ar ddarparu gofal plant, sefydlu gwasanaeth gwybodaeth ar ofal plant, ac er mwyn cynnwys gofal plant yn y cynlluniau a phartneriaethau datblygu'r blynyddoedd cynnar.
Mae adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5, 7, 8, 13 i 15 yn diwygio Deddf Addysg 1996 er mwyn darparu ar gyfer Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Cychwynnir y darpariaethau hyn yn Ebrill 2003 at ddibenion sefydlu'r Tribiwnlys newydd yn unig, ond nid er mwyn rhoi unrhyw swyddogaethau i'r Tribiwnlys.
Mae adran 200 yn diwygio adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi budd-daliadau neu gredydau treth mewn perthynas â dileu taliadau sy'n ymwneud â thripiau preswyl.
Mae adran 201 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chiniawau ysgol. Mae'n amnewid adrannau 512, 512ZA a 512ZB newydd yn Neddf Addysg 1996 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill. Mae'r darpariaethau newydd yn nodi pwerau'r AALl i ddarparu prydau bwyd, llaeth a lluniaeth arall mewn ysgolion, yn cyflwyno pŵer newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu gofynion sydd i'w bodloni cyn bod angen i AALl ddarparu ciniawau ysgol ac yn ei gwneud yn ofynnol i AALl godi tâl am brydau bwyd, llaeth a lluniaeth ac eithrio onid oes hawl gan berson i brydau bwyd di-dâl.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen—
Mae adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 2, 3, 6, 8, 9 i 12 a 16 i 18 yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar wahân, fel y bydd yn gallu gwrando ar apelau anghenion addysgol arbennig o fis Medi 2003 ymlaen. Bydd y Tribiwnlys hefyd yn gwrando ar hawliadau ar wahaniaethu ar sail anabledd.
Mae adran 215(2) ac Atodlen 22 yn darparu ar gyfer diddymiadau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys