Enwi, cychwyn a hyd a lled
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Drefn Brydlesol (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau
2. Yn yr Atodlen i Reoliadau Diwygio'r Drefn Brydlesol (Hysbysiadau) 1997(1)—
(a)yn lle Ffurflen 1, rhoddir y Ffurflen 1 sydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn; a
(b)yn lle Ffurflen 2, rhoddir y Ffurlfen 2 sydd yn yr Atodlen honNo.
Cymhwyso
3. Dim ond ar gyfer achosion pan fo hysbysiad o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio'r Drefn Brydlesol 1967(2) (hysbysiad o awydd y tenant i gael neu honiad bod ganddo hawl i gaffael y rhydd-ddeiliad neu brydles estynedig) wedi'i roi ar neu ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym y bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Rhagfyr 2002