Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rhan VDARPARIAETHAU CYFFREDINOL AR GYFER CANIATADAU

Darpariaethau cyffredinol caniatadau i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

29.  Rhaid i ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf bennu—

(a)cwmpas y caniatâd, gan gynnwys pa rai yw'r organeddau a addaswyd yn enetig sydd i'w marchnata, a'u marc adnabod unigryw;

(b)y cyfnod pan fydd y caniatâd yn ddilys;

(c)yr amodau ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys unrhyw amodau penodol ar gyfer defnyddio, trafod a phecynnu'r organeddau a addaswyd yn enetig, a'r amodau ar gyfer diogelu ecosystemau penodol neu amgylcheddau neu ardaloedd daearyddol fel y bo'n gymwys;

(ch)bod rhaid i'r ceisydd sicrhau bod samplau rheoli ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os gwneir cais amdanynt;

(d)gofynion labelu, yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 3, a rhaid iddynt gynnwys gofyniad i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw enw masnachol newydd y cynnyrch ar ôl i ganiatâd gael ei roi;

(dd)gofynion monitro y mae yn rhaid iddynt fod yn unol â'r cynllun monitro, a rhaid iddynt gynnwys cyfnod amser y cynllun monitro, rhwymedigaeth bod rhaid i'r ceisydd gyflwyno'r adroddiadau monitro i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau a, phan fo hynny'n briodol, unrhyw rwymedigaethau sydd ar unrhyw berson sy'n gwerthu'r cynnyrch neu unrhyw ddefnyddiwr i ddarparu gwybodaeth am lefel briodol ar leoliad yr organeddau a addaswyd yn enetig.

Amodau cyffredinol mewn caniatadau i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

30.—(1Mae'r diwygiadau i adran 112 o'r Ddeddf (caniatadau: cyfyngiadau ac amodau) a wnaed gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.

(2Mae'r diwygiad i is-adran (1) a wnaed gan reoliad 29(2) o'r rheoliadau hynny, sy'n mewnosod ar ddiwedd yr is-adran honno y geiriau “for the purpose of ensuring that all appropriate measures are taken to avoid damage to the environment which may arise from the activity permitted by the consent”, yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

(3Mae'r diwygiadau i is-adran (5) a wnaed gan reoliad 29(3)(a) a (b) o'r Rheoliadau hynny, fel y'u disgrifir ym mharagraff (4), yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

(4Mae'r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (5)(b)—

(i)ar ôl “Secretary of State” mewnosodwch “forthwith”,

(ii)hepgorwch is-baragraff (ii), a

(iii)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosodwch—

(iii)any unforeseen event, occurring in connection with a release by him, which might affect the risks there are of damage to the environment being caused as a result of their being released;, a

(b)rhowch yn lle is-adran (5)(c)

(c)take such measures as are necessary to prevent damage to the environment being caused as a result of the release, or, as the case may be, the marketing of the organisms;.

(5Mae'r diwygiad i is-adran (5) a wnaed gan reoliad 29(3)(c) o'r Rheoliadau hynny, sy'n mewnosod paragraffau (d) ac (e), yn cael ei addasu gan baragraff (6) ac, o'i addasu felly, yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

(6Ym mharagraffau (d) ac (e), fel y'u mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl “the Secretary of State”, yn y ddau le y mae'n digwydd, mewnosodwch “or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales”.

(7Mae testun paragraffau (d) ac (e) o is-adran (5), fel y'i mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw ac fel y'i addaswyd gan baragraff (6), fel a ganlyn—

(d)notify the Secretary of State or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales, of the measures (if any) taken as a result of new information becoming available or an unforeseen event occurring as described in paragraph (b) (iii) above; and

(e)in a case where new information becomes available or an unforeseen event so occurs, revise the information contained in his application for a consent accordingly and supply the revised information to the Secretary of State or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales..

Prawf o gydymffurfio ag amodau'r caniatâd

31.  Mae'r diwygiad i adran 119(1) o'r Ddeddf (“Onus of proof as regards techniques and evidence”) a wnaed gan reoliad 30 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, ac sydd ar ôl y geiriau “the accused to prove” yn mewnosod y materion a ddisgrifir yn is-adran (1A) isod:

(1A) The matters referred to in subsection (1) above are—

(a)in the case of an offence under section 118(1)(c) above consisting in a failure to comply with the general condition implied by section 112(5)(c) above—

(i)that no measures, other than the measures taken by him, were necessary to prevent damage being caused to the environment from the release or, as the case may be, marketing of the organisms, or

(ii)in a case where he took no measures, that no measures were necessary; and

(b)in any other case,,

  • yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

Gwybodaeth newydd am y risgiau o beri niwed i'r amgylchedd

32.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon ar unwaith i'r Comisiwn ac i awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth unrhyw wybodaeth newydd sy'n dod ar gael iddo ac a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.

(2Pan fo cais am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn dod ar gael iddo, cyn bod y cais wedi'i benderfynu, caiff geisio dod i gytundeb gyda'r Comisiwn a'r Aelod-wladwriaethau eraill yn unol ag Erthygl 15(1) neu 17(7) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol fel y bo'n gymwys.

(3Pan fo cais am ganiatâd neu gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad (1) wedi dod ar gael iddo wedi i'r caniatâd gael ei roi neu ei adnewyddu, rhaid iddo sicrhau bod adroddiad asesu wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen 4, yn nodi a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut, neu a ddylid dirymu'r caniatâd , yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 60 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr wybodaeth newydd i law.

(4Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi nodi y dylid amrywio'r caniatâd a naill ai—

(a)bod dim gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

(b)bod gwrthwynebiad neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob mater a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 20(3) o'r Gyfarwyddeb Gollyniadau Bwriadol,

rhaid iddo amrywio neu ddirymu'r caniatâd fel y'i cynigiwyd a hysbysu'r ceisydd, awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn ei fod wedi gwneud hynny o fewn 30 diwrnod i hynny.

(5Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio ag amrywio na dirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf ac eithrio—

(i)os yw'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi dod ar gael iddo, ac os cydymffurfiwyd â'r weithdrefn y cyfeirir ati ym mharagraffau (3) a (4), neu

(ii)yn unol â phenderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthyglau 18(1) neu 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill