xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhan VIIILL+CY GOFRESTR GWYBODAETH

Gwybodaeth sydd i'w chynnwys ar y gofrestrLL+C

35.—(1Rhaid i'r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).

(2Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 110 o'r Ddeddf—

(a)enw a chyfeiriad y person y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo,

(b)disgrifiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy,

(c)y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig,

(ch)at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,

(d)y rheswm dros gyflwyno'r hysbysiad,

(dd)unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw'r gwaharddiad i rym.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd,

(b)disgrifiad cyffredinol o'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn cael ei wneud mewn perthynas ag ef,

(c)y man lle bwriedir gollwng yr organeddau, i'r graddau y mae'r wybodaeth hon wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(ch)at ba ddiben arfaethedig y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata,

(d)dyddiad arfaethedig eu gollwng,

(dd)yr asesiad risg amgylcheddol,

(e)y dulliau a'r cynlluniau ar gyfer monitro'r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng, ac

(f)crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—

(i)yr amodau neu'r cyfyngiadau y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi'r caniatâd yn unol â hwy, neu

(ii)crynodeb o'r rhesymau pam y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi'r caniatâd.

(4Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwybodol neu os daw'n ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi'i gyhoeddi a bod honno'n fanylach na'r hyn a fyddai'n bodloni gofynion paragraff (3) uchod, rhaid iddo nodi cymaint o'r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y bydd yn ystyried yn briodol.

(5Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—

(a)copi o'r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef,

(b)unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd,

(c)y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o'r caniatâd wedi'i amrywio,

(ch)crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

(6Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i'r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o'r Ddeddf,

(b)unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy'n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy'n bodoli o beri niwed i'r amgylchedd a'r wybodaeth honno wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o'r Ddeddf.

(7Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall.

(8Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i'r graddau y mae'r wybodaeth honno yn cael ei chymhwyso i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.

(9Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(10Mewn perthynas â chollfarnau am unrhyw dramgwydd o dan adran 118 o'r Ddeddf—

(a)enw a chyfeiriad y person a gafwyd yn euog,

(b)disgrifiad o unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig y cafwyd y gollfarn mewn perthynas â hwy,

(c)y dramgwydd a gyflawnwyd,

(ch)y gosb a bennwyd ac unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 120 o'r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cadw'r gofrestrLL+C

36.—(1Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno'r hysbysiad gwahardd.

(2Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o'r adeg y mae'r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru .

(3Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.

(4Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi neu wrthod y caniatâd.

(5Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio'r caniatâd.

(7Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a 35(10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(8Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(9) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hysbysu o'r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cyhoeddi sylwadauLL+C

37.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl rhoi caniatâd neu wrthod cais am ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, drefnu bod manylion o ble a phryd y gellir archwilio copïau papur o'r sylwadau a gafwyd ar gael i'r cyhoedd drwy ba ddull bynnag y bydd yn barnu ei fod yn briodol.

(2Ni fydd paragraff (1) yn ei gwneud hi'n ofynnol i drefnu bod copïau o'r sylwadau ar gael i'r cyhoedd pan fônt yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a bod y person sy'n cyflwyno'r sylwadau wedi gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin yr wybodaeth honno yn gyfrinachol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)