Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Cais am ganiatâd i farchnata

17.—(1Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Rhaid i gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig nad yw'n gais am adnewyddu caniatâd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)yr wybodaeth a ragnodir yn—

(i)Atodlen 1 pan fo'r cais yn gais am ganiatâd i farchnata unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu

(ii)Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,

i'r graddau y bo gwybodaeth o'r fath yn briodol i natur a graddfa'r gollyngiad a allai ddeillio o'r marchnata;

(b)gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau a gyflawnwyd gan y ceisydd naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol am ganiatâd i ollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn neu i awdurdod cymwys arall yn unol ag adran 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

(c)asesiad risg amgylcheddol a baratowyd yn unol â rheoliad 7;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3;

(d)yr amodau arfaethedig ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys amodau penodol ar gyfer ei ddefnyddio a'i drin;

(dd)cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd na fydd yn hwy na deng mlynedd;

(e)cynllun monitro wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol y mae'n rhaid iddo gynnwys cynnig ar gyfer cyfnod amser y cynllun a all fod yn wahanol i'r cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd;

(f)cynnig ar gyfer labelu sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn Atodlen 3;

(ff)cynnig ar gyfer y pacediad;

(g)crynodeb o'r cais ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

(3Caiff y cais gynnwys hefyd—

(a)data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi ysgrifenedig o gytundeb y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais,

(b)mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.

(4Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir yn unol ag is-baragraffau (2)(a) ac (ch) gymryd i ystyriaeth amrywiaeth y safleoedd sy'n defnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ymchwil a gollyngiadau datblygiadol ar effaith y gollyngiadau ar iechyd dynol a'r amgylchedd;

(5Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (3)(b).

(6Pan fydd y ceisydd yn gallu dangos yn ei gais er bodlonrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar sail canlyniadau unrhyw ollyngiad gan ddilyn ac yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf o dan Ran B o naill ai'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Gyfarwyddeb 1990, neu am resymau gwyddonol rhesymegol sylweddol eraill, nad yw marchnata a defnyddio'r cynnyrch yn peri risg o niweidio'r amgylchedd, gall gynnig peidio â chyflenwi rhan neu'r cyfan o'r wybodaeth ragnodedig yn Rhan II o Atodlen 3.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill