- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
17.—(1) Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Rhaid i gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig nad yw'n gais am adnewyddu caniatâd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a)[F1yn ddarostyngedig i baragraff (2A),] yr wybodaeth a ragnodir yn—
(i)[F2Atodlen 1A] pan fo'r cais yn gais am ganiatâd i farchnata unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu
(ii)Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,
F3...
(b)gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau a gyflawnwyd gan y ceisydd naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r [F4Undeb Ewropeaidd], a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol am ganiatâd i ollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn neu i awdurdod cymwys arall yn unol ag adran 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
(c)asesiad risg amgylcheddol a baratowyd yn unol â rheoliad 7;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3;
(d)yr amodau arfaethedig ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys amodau penodol ar gyfer ei ddefnyddio a'i drin;
(dd)cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd na fydd yn hwy na deng mlynedd;
(e)cynllun monitro wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol y mae'n rhaid iddo gynnwys cynnig ar gyfer cyfnod amser y cynllun a all fod yn wahanol i'r cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd;
(f)cynnig ar gyfer labelu sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn Atodlen 3;
(ff)cynnig ar gyfer y pacediad;
(g)crynodeb o'r cais ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
[F5(ng)mewn cysylltiad â phob is-set o wybodaeth sy’n ofynnol yn y paragraff hwn—
(i)crynodebau o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais a’u canlyniadau, gan gynnwys esboniad o’u perthnasedd i’r asesiad risg amgylcheddol, fel y bo’n briodol,
(ii)manylion yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais, gan gynnwys y deunyddiau a’r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at ddulliau safonedig neu ddulliau a gydnabyddir yn rhyngwladol ac enw’r corff neu’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau hynny.]
[F6(2A) Dim ond os oes ei hangen er mwyn cwblhau asesiad risg amgylcheddol yng nghyd-destun cais penodol y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a), a gall lefel y manylder y mae rhaid ei ddarparu amrywio yn ôl natur a graddfa’r gollyngiad arfaethedig o ganlyniad i farchnata uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig.]
(3) Caiff y cais gynnwys hefyd—
(a)data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi ysgrifenedig o gytundeb y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais,
(b)mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac
(c)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.
(4) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir yn unol ag is-baragraffau (2)(a) ac (ch) gymryd i ystyriaeth amrywiaeth y safleoedd sy'n defnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ymchwil a gollyngiadau datblygiadol ar effaith y gollyngiadau ar iechyd dynol a'r amgylchedd;
(5) Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (3)(b).
(6) Pan fydd y ceisydd yn gallu dangos yn ei gais er bodlonrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar sail canlyniadau unrhyw ollyngiad gan ddilyn ac yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf o dan Ran B o naill ai'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Gyfarwyddeb 1990, neu am resymau gwyddonol rhesymegol sylweddol eraill, nad yw marchnata a defnyddio'r cynnyrch yn peri risg o niweidio'r amgylchedd, gall gynnig peidio â chyflenwi rhan neu'r cyfan o'r wybodaeth ragnodedig yn Rhan II o Atodlen 3.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 17(2)(a) wedi eu mewnosod (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 17(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 17(2)(a) wedi eu hepgor (30.10.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(a)(iii)
F4Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10
F5Rhl. 17(2)(ng) wedi ei fewnosod (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(b)
F6Rhl. 17(2A) wedi ei fewnosod (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 5(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys