DehongliLL+C
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad risg amgylcheddol” (“environmental risk assessment”) yw'r asesiad risg amgylcheddol y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan reoliad 12(1)(c) a rheoliad 17(2)(c) yn ôl eu trefn;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol;
[F1ystyr “bwyd a addaswyd yn enetig” (“genetically modified food”) yw—
(a)bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;
(b)bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu
(c)organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;]
mae “cais am ganiatâd i ollwng” (“application for consent to release”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad a wneir o dan Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd);
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Ewropeaidd;
ystyr “Cyfarwyddeb 1990” (“the 1990 Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC(1) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1994/15/EC(2) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 1997/35/EC(3);
mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4));
ystyr “cynllun monitro” (“monitoring plan”) yw'r cynllun sy'n ofynnol gan reoliad 17(2)(e);
ystyr “cynnyrch wedi'i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf neu yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) a (4) o Gyfarwyddeb 1990;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr gyhoeddus sy'n cael ei chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf;
ystyr “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”) yw [F2Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig];
[F3“ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC(1) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003(2);”]
ystyr “marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig” (“antibiotic resistance markers”) yw genynnau a ddefnyddir wrth addasu organedd fel bod yr organedd hwnnw yn mynegi ymwrthedd i wrthfiotig neu wrthfiotigau penodol;
ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” (“genetically modified organisms”) yw organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig;
ystyr “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“The First Simplified Procedure (crop plants) Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 94/730/EC(5);
ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd” (“the Advisory Committee on Releases to the Environment”) yw'r Pwyllgor a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 124 o'r Ddeddf;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992(6);
ystyr “uwchblanhigyn” (“higher plant”) yw planhigyn sy'n perthyn i'r grŵ p tacsonomig Spermatophytae (Gymnospermae neu Angiospermae).
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a
(b)mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(2)(b)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (17.12.2018) gan Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 4(2)
F3Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(2)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
OJ Rhif L117, 8.5.90, t.15.
OJ Rhif L103, 22.4.94, t.20.
OJ Rhif L169, 27.6.97, t.72.
OJ Rhif L292, 12.11.1994, t.31.
O.S. 1992/3280. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y rheoliadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Erthygl 3 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).