Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesiad risg amgylcheddol” (“environmental risk assessment”) yw'r asesiad risg amgylcheddol y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan reoliad 12(1)(c) a rheoliad 17(2)(c) yn ôl eu trefn;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol;

  • mae “cais am ganiatâd i ollwng” (“application for consent to release”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad a wneir o dan Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd);

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Ewropeaidd;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 1990” (“the 1990 Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC(1) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1994/15/EC(2) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 1997/35/EC(3);

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4));

  • ystyr “cynllun monitro” (“monitoring plan”) yw'r cynllun sy'n ofynnol gan reoliad 17(2)(e);

  • ystyr “cynnyrch wedi'i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf neu yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) a (4) o Gyfarwyddeb 1990;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr gyhoeddus sy'n cael ei chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC(5) ar ddefnydd amgaeëdig micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 2001/204/EC(6));

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd a Chyngor Ewrop ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(7);

  • ystyr “marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig” (“antibiotic resistance markers”) yw genynnau a ddefnyddir wrth addasu organedd fel bod yr organedd hwnnw yn mynegi ymwrthedd i wrthfiotig neu wrthfiotigau penodol;

  • ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” (“genetically modified organisms”) yw organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig;

  • ystyr “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“The First Simplified Procedure (crop plants) Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 94/730/EC(8);

  • ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd” (“the Advisory Committee on Releases to the Environment”) yw'r Pwyllgor a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 124 o'r Ddeddf;

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992(9);

  • ystyr “uwchblanhigyn” (“higher plant”) yw planhigyn sy'n perthyn i'r grŵ p tacsonomig Spermatophytae (Gymnospermae neu Angiospermae).

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a

(b)mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.

(1)

OJ Rhif L117, 8.5.90, t.15.

(2)

OJ Rhif L103, 22.4.94, t.20.

(3)

OJ Rhif L169, 27.6.97, t.72.

(5)

OJ Rhif L117, 8.5.90, t.1.

(6)

OJ Rhif L73, 15.03.2001, t.32—34.

(7)

OJ Rhif L106, 17.4.2001, t.1.

(8)

OJ Rhif L292, 12.11.1994, t.31.

(9)

O.S. 1992/3280. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y rheoliadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Erthygl 3 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).