xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhan IVDYLETSWYDDAU AR ÔL GWNEUD CEISIADAU

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

24.—(1Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon yn ddi-oed i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau;

(c)archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;

(ch)cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod, gan ddechrau â'r diwrnod y daeth y cais i'w law, naill ai—

(i)anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi y dylai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu

(ii)wrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi na ddylid marchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig;

(d)sicrhau bod copi o'r cais yn cael ei anfon i'r Comisiwn pan gaiff ei fodloni ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a ragnodwyd yn rheoliad 15 a hynny heb fod yn hwyrach na phan y bydd yn anfon ei adroddiad asesu yn unol â pharagraff (ch).

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod—

(i)ei adroddiad asesu,

(ii)unrhyw wybodaeth bellach y mae wedi'i chael oddi wrth y ceisydd yn unol â chyflwyno hysbysiad o dan adran 111(6) o'r Ddeddf,

(iii)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi seilio'i adroddiad asesu arni,

yn cael eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(i), cyn pen diwedd cyfnod o naw deg diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(ii), heb fod yn gynt na phymtheg diwrnod o'r dyddiad pan anfonodd yr adroddiad asesu at y ceisydd a heb fod yn hwyrach na chant a phum diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i law.

(3Ni chaiff y cyfnodau o naw deg diwrnod a ragnodwyd ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.