- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
6.—(1) Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(a)(1) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, wedi'u haddasu'n artiffisial os ydynt wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:
(a)technegau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno sy'n cynnwys ffurfio cyfuniad newydd o ddeunydd genetig drwy fewnosod molecylau asid niwclëig a gynhyrchir drwy ba ddull bynnag y tu allan i organedd, i mewn i unrhyw firws, plasmid bacterol neu system fector arall a'u hymgorffori mewn organedd lletyol lle nad ydynt yn digwydd yn naturiol ond mae modd iddynt barhau i epilio;
(b)technegau sy'n cynnwys cyflwyno'n uniongyrchol i mewn i organedd ddeunydd etifeddadwy a baratowyd y tu allan i'r organedd gan gynnwys microbigiad, macrobigiad a microamgáu;
(c)ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) neu dechnegau croesiad pan gaiff celloedd byw gyda chyfuniadau newydd o ddeunydd genetig etifeddadwy eu ffurfio drwy ymasu dwy gell neu fwy drwy ddulliau nad ydynt yn digwydd yn naturiol.
(5) Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(b) o'r Ddeddf i rym, rhaid peidio ag ystyried bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, yn rhai sydd wedi'u haddasu'n artiffisial ond am eu bod wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:
(a)ffrwythloni in vitro,
(b)prosesau naturiol megis cydgysylltiad, trosglwyddiad a thrawsnewid; ac
(c)anwythiad polyploidedd,
ar yr amod nad yw technegau o'r fath yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau ac eithrio—
(i)mwtagenesis;
(ii)ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) celloedd planhigion neu organeddau sy'n gallu cyfnewid deunydd genetig trwy ddulliau bridio traddodiadol.
(6) Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4C) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd nad yw organedd, at ddibenion Rhan VI o'r Ddeddf, yn organedd a addaswyd yn enetig os yw'n gynnyrch a gafwyd drwy'r technegau neu'r dulliau a restrir ym mharagraffau (2)(i) neu (ii) ar yr amod nad oedd y technegau neu'r dulliau hynny yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio'r rhai a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau a restrir yn y paragraff hwnnw.
Diwygiwyd adran 106(4) gan reoliad 3(3) ac mewnosodwyd adran 106(4A) i 106(4D) gan reoliad 3(4) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, a rhoddir effaith iddynt yng Nghymru yn ddarostyngedig i addasiadau pellach gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys