Newidiadau dros amser i: Paragraff 27
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/10/2019.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[27. Gwybodaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid gan gynnwys—LL+C
(a)asesiad o ryngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol posibl rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a phersonau sy’n gweithio gyda’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu sy’n dod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys drwy baill neu lwch o blanhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi ei brosesu, ac asesiad o effeithiau andwyol y rhyngweithiadau hynny ar iechyd dynol,
(b)ar gyfer planhigyn a addaswyd yn enetig na fwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl, ond pan allai’r organedd derbyn neu’r organedd rhieniol gael ei ystyried i’w fwyta gan bobl, asesiad o debygolrwydd cymeriant damweiniol a’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd dynol o ganlyniad i gymeriant damweiniol,
(c)asesiad o’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd anifeiliaid pe bai anifeiliaid yn bwyta’n ddamweiniol y planhigyn a addaswyd yn enetig neu ddeunydd o’r planhigyn hwnnw,
(ch)casgliadau am yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid.]
Yn ôl i’r brig