Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Rheoliad 17

[F1ATODLEN 1ALL+CYr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig

RHAN 1LL+CGwybodaeth gyffredinol

1.  Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro’r gollyngiadau ac am eu diogelwch.LL+C

2.  Dynodiad a manyleb y planhigyn a addaswyd yn enetig, a chwmpas y cais, ac yn benodol a yw’r cais mewn cysylltiad ag amaethu, at ryw ddiben arall (y mae rhaid ei bennu), neu’r ddau.LL+C

RHAN 2LL+CGwybodaeth sy’n ymwneud â’r planhigyn rhieniol neu’r planhigyn derbyn

3.  Enw llawn y planhigyn—LL+C

(a)enw teuluol,

(b)genws,

(c)rhywogaeth,

(ch)isrywogaeth,

(d)llinell cyltifar neu linell fridio,

(e)enw cyffredin.

4.  Gwybodaeth ynghylch—LL+C

(a)atgenhedliad y planhigyn—

(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,

(ii)unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar atgenhedlu,

(iii)amser cenhedliad, a

(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau eraill a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill, gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

5.  Gwybodaeth ynghylch gallu’r planhigyn i oroesi—LL+C

(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

(b)unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar ei allu i oroesi.

6.  Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn—LL+C

(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill hyfyw neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny’n gymwys) y gwasgariad, a

(b)unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar wasgariad.

7.  Dosbarthiad daearyddol y planhigyn yn Ewrop.LL+C

8.  Pan fo’r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw’n cael ei dyfu yn arferol yn Ewrop, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.LL+C

9.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy’n berthnasol i’r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ac organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu’n arferol, neu yn rhywle arall, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.LL+C

RHAN 3LL+CGwybodaeth sy’n ymwneud â’r addasiad genetig

10.  Disgrifiad o’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.LL+C

11.  Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.LL+C

12.  Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw’r organedd rhoi neu’r organeddau rhoi ar gyfer pob darn cyfansoddol o’r rhanbarth y bwriedir ei fewnosod.LL+C

RHAN 4LL+CGwybodaeth sy’n ymwneud â’r planhigyn a addaswyd yn enetig

13.  Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig a gyflwynwyd neu a addaswyd.LL+C

14.(1) Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnosodwyd neu a ddilëwyd—LL+C

(a)maint a strwythur y mewnosodiad a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o’r fector a gyflwynwyd i’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw DNA cludo neu DNA estron sy’n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig,

(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu’r rhanbarthau a ddilëwyd, pan fo hynny’n briodol,

(c)rhif copi y mewnosodiad,

(ch)lleoliad isgellog unrhyw fewnosodiad yng nghelloedd y planhigyn (p’un a yw wedi ei integreiddio yn y cnewyllyn, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a’r dulliau ar gyfer ei benderfynu,

(d)trefn a dilyniant y deunydd genetig ym mhob safle mewnosod ar ffurf electronig safonedig,

(dd)dilyniant y DNA genomaidd o bob tu i bob safle mewnosod ar ffurf electronig safonedig,

(e)dadansoddiad biowybodeg i nodi ymyriadau genynnau hysbys,

(f)gwybodaeth am Fframiau Darllen Agored o fewn y mewnosodiad a Fframiau Darllen Agored sy’n cael eu creu yng nghysylltle’r mewnosodiad a’r DNA genomaidd,

(ff)dadansoddiad biowybodeg i nodi unrhyw debygrwydd rhwng unrhyw Fframiau Darllen Agored sy’n cael eu creu gan yr addasiad genetig a genynnau hysbys a allai gael effeithiau andwyol,

(g)y dilyniant asidau amino, ac os oes angen, strwythurau eraill proteinau a gynhyrchir o ganlyniad i’r addasiad genetig,

(ng)dadansoddiad biowybodeg i nodi homologaethau dilyniannol, ac os oes angen, unrhyw debygrwydd strwythurol rhwng proteinau a gynhyrchir o ganlyniad i’r addasiad genetig a phroteinau a pheptidau hysbys ac iddynt effeithiau andwyol posibl,

(h)yn achos addasiadau genetig ac eithrio mewnosod neu ddileu, gwybodaeth am swyddogaeth y deunydd genetig a dargedir gan yr addasiad genetig cyn ac ar ôl ei addasu, yn ogystal â newidiadau uniongyrchol i fynegiant y genynnau o ganlyniad i’r addasiad.

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr Ffrâm Ddarllen Agored yw dilyniant niwcleotid sy’n cynnwys llinyn o godonau heb ymyrraeth codon gorffen yn yr un ffrâm ddarllen.

15.  Yr wybodaeth ganlynol am fynegi’r mewnosodiad—LL+C

(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y DNA a fewnosodwyd neu’r DNA a addaswyd yn ystod cylch bywyd y planhigyn a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

(b)y rhannau o’r planhigyn lle mae’r mewnosodiad wedi ei fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill,

(c)mynegiant anfwriadol posibl Ffrâm Ddarllen Agored newydd (mae i “Ffrâm Ddarllen Agored” yr ystyr a roddir ym mharagraff 14(2)), sydd wedi deillio o fewnosod neu ddileu deunydd genetig mewn gennyn hysbys (fel a nodir o dan baragraff 14(dd)) ac sy’n codi pryder o ran diogelwch,

(ch)data am fynegiant proteinau o blanhigion a addaswyd yn enetig sydd wedi eu tyfu o dan amodau maes.

16.  Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C

17.  Casgliadau am nodweddiad moleciwlaidd y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C

18.  Yr wybodaeth ganlynol am y dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig a chyfansoddiad—LL+C

(a)dewis cyfatebydd confensiynol ac unrhyw gymaryddion ychwanegol a ddefnyddiwyd mewn dadansoddiadau cymharol,

(b)dewis lleoliad y safle maes ar gyfer cynhyrchu deunydd planhigion ar gyfer dadansoddiadau cymharol,

(c)dyluniad yr arbrawf gan gynnwys dadansoddiad ystadegol,

(ch)dewis deunydd planhigion i’w ddadansoddi, pan fo hynny’n berthnasol,

(d)dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig,

(dd)dadansoddiad cymharol o gyfansoddiad, os yw’n berthnasol,

(e)casgliadau’r dadansoddiad cymharol.

RHAN 5LL+CGwybodaeth am feysydd penodol sy’n peri risg

19.  Ar gyfer pob un o’r meysydd sy’n peri risg a restrir yn adran D.2 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol rhaid i’r ceisydd ddisgrifio pob llwybr a allai arwain at niwed mewn cysylltiad â gollwng planhigyn a addaswyd yn enetig, gan ystyried y peryglon a dod i gysylltiad â’r planhigyn.LL+C

20.  Rhaid i’r ceisydd ddarparu—LL+C

(a)yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 21 i 27, a

(b)y gwerthusiad cyffredinol o risg a’r casgliadau a ddisgrifir ym mharagraff 28,

ac eithrio pan fo’r ceisydd o’r farn nad yw hynny’n berthnasol oherwydd y modd y bwriedir defnyddio’r planhigyn a addaswyd yn enetig.

21.  Gwybodaeth ynghylch parhausrwydd ac ymledoldeb gan gynnwys trosglwyddo genynnau o blanhigyn i blanhigyn gan gynnwys—LL+C

(a)asesiad o’r potensial i’r planhigyn a addaswyd yn enetig ddod yn fwy parhaus neu’n fwy ymledol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)asesiad o’r potensial i’r planhigyn a addaswyd yn enetig drosglwyddo trawsenynnau i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(c)casgliadau am effaith amgylcheddol andwyol parhausrwydd ac ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig gan gynnwys effaith amgylcheddol andwyol trosglwyddo genynnau o blanhigyn i blanhigyn.

22.  Gwybodaeth ynghylch trosglwyddo genynnau o blanhigyn i ficro-organedd gan gynnwys—LL+C

(a)asesiad o’r potensial ar gyfer trosglwyddo DNA sydd newydd ei fewnosod o’r planhigyn a addaswyd yn enetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)casgliadau am effaith andwyol trosglwyddo DNA sydd newydd ei fewnosod o’r planhigyn a addaswyd yn enetig i ficro-organeddau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid ac ar yr amgylchedd.

23.  Gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw’n berthnasol, ag organeddau targed gan gynnwys—LL+C

(a)asesiad o’r potensial ar gyfer newidiadau yn y rhyngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)asesiad o’r potensial ar gyfer esblygiad ymwrthedd yr organedd targed i’r protein a fynegwyd yn seiliedig ar hanes esblygiad ymwrthedd i blaladdwyr confensiynol neu blanhigion trawsenynnol sy’n mynegi nodweddion tebyg, ac unrhyw effeithiau andwyol sy’n deillio o hynny,

(c)casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau targed.

24.(1) Gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed gan gynnwys——LL+C

(a)asesiad o’r potensial ar gyfer rhyngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau heb fod yn organeddau targed, gan gynnwys rhywogaethau gwarchodedig, a’r effaith amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed.

(2) Rhaid i’r asesiad a ddisgrifir yn is-baragraff (1) ystyried yr effaith andwyol bosibl ar wasanaethau ecosystemau perthnasol ac ar y rhywogaethau sy’n darparu’r gwasanaethau hynny.

25.  Gwybodaeth ynghylch effeithiau’r technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol gan gynnwys—LL+C

(a)mewn cysylltiad â phlanhigion a addaswyd yn enetig ar gyfer amaethu, asesiad o’r newidiadau yn y technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol a ddefnyddir ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol y technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol.

26.  Gwybodaeth am brosesau biogeocemegol gan gynnwys—LL+C

(a)asesiad o’r newidiadau posibl yn y prosesau biogeocemegol yn yr ardal lle mae’r planhigyn a addaswyd yn enetig i’w dyfu ac yn yr amgylchedd ehangach, a’r effeithiau andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)casgliadau am effeithiau andwyol ar brosesau biogeocemegol.

27.  Gwybodaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid gan gynnwys—LL+C

(a)asesiad o ryngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol posibl rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a phersonau sy’n gweithio gyda’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu sy’n dod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys drwy baill neu lwch o blanhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi ei brosesu, ac asesiad o effeithiau andwyol y rhyngweithiadau hynny ar iechyd dynol,

(b)ar gyfer planhigyn a addaswyd yn enetig na fwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl, ond pan allai’r organedd derbyn neu’r organedd rhieniol gael ei ystyried i’w fwyta gan bobl, asesiad o debygolrwydd cymeriant damweiniol a’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd dynol o ganlyniad i gymeriant damweiniol,

(c)asesiad o’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd anifeiliaid pe bai anifeiliaid yn bwyta’n ddamweiniol y planhigyn a addaswyd yn enetig neu ddeunydd o’r planhigyn hwnnw,

(ch)casgliadau am yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid.

28.(1) Rhaid i’r gwerthusiad cyffredinol o risg a’r casgliadau gynnwys crynodeb o bob un o’r casgliadau a bennir ym mharagraffau 21 i 27.LL+C

(2) Rhaid i’r crynodeb y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ystyried y nodweddiad risg yn unol â chamau 1 i 4 o’r fethodoleg a ddisgrifir yn Adran C.3 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol a’r strategaethau rheoli risg a gynigir yn unol â phwynt 5 o Adran C.3 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb honno.

RHAN 6LL+CGwybodaeth ynghylch canfod ac adnabod y planhigyn a addaswyd yn enetig a gollyngiadau blaenorol ohono

30.  Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C

31.  Gwybodaeth ynghylch gollyngiadau blaenorol o’r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny’n gymwys.]LL+C