xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG

Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

25.  Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

26.  Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

28.  Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo. LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

29.  Actifedd y cynnyrch genynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

30.  Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

31.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

32.  Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

33.  Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—LL+C

(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

(c)gallu'r organeddau i gytrefu,

(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

(ii)heintusrwydd,

(iii)dogn heintiol,

(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

(vii)sefydlogrwydd biolegol,

(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

(ix)alergenedd, a

(x)argaeledd therapïau priodol; a

(d)peryglon eraill y cynnyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)