Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

  • reg. 16(1)(e) substituted by S.I. 2019/379 reg. 3(5)(e) (This amendment not applied to legislation.gov.uk. Pt. 3 revoked immediately before IP completion day by S.I. 2019/1492, regs. 1(2), 4(2))
  • reg. 16(1)(g) omitted by S.I. 2019/379 reg. 3(5)(f) (This amendment not applied to legislation.gov.uk. Pt. 3 revoked immediately before IP completion day by S.I. 2019/1492, regs. 1(2), 4(2))
  • reg. 16(1)(aa) inserted by S.I. 2019/379 reg. 3(5)(b) (This amendment not applied to legislation.gov.uk. Pt. 3 revoked immediately before IP completion day by S.I. 2019/1492, regs. 1(2), 4(2))
  • reg. 16(2) inserted by S.I. 2019/379 reg. 3(5)(g) (This amendment not applied to legislation.gov.uk. Pt. 3 revoked immediately before IP completion day by S.I. 2019/1492, regs. 1(2), 4(2))

Rheoliadau 12 a 17

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiadau ac am eu diogelwch.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Teitl y prosiect.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG

Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbynLL+C

3.  Enw gwyddonol a thacsonomi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Marcwyr ffenotypig a genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—LL+C

(a)dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;

(b)hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;

(c)gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;

(ch)pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;

(d)ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;

(dd)rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Hanes addasiadau genetig blaenorol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion y fectorLL+C

15.  Natur a ffynhonnell y fector.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

19.  Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Y dulliau a ddefnyddiwyd—LL+C

(a)i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;

(b)i ddileu dilyniant.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

25.  Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

26.  Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

28.  Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo. LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

29.  Actifedd y cynnyrch genynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

30.  Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

31.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

32.  Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

33.  Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—LL+C

(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

(c)gallu'r organeddau i gytrefu,

(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

(ii)heintusrwydd,

(iii)dogn heintiol,

(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

(vii)sefydlogrwydd biolegol,

(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

(ix)alergenedd, a

(x)argaeledd therapïau priodol; a

(d)peryglon eraill y cynnyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R AMODAU AR GYFER GOLLWNG

Y gollyngiadLL+C

34.  Disgrifiad o'r gollyngiad bwriadol arfaethedig, gan gynnwys diben neu ddibenion y gollyngiad ac unrhyw fwriad i ddefnyddio'r organedd a addaswyd yn enetig fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

35.  Dyddiadau arfaethedig y gollyngiad ac amserlen yr arbrawf gan gynnwys amledd a hyd y gollyngiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

36.  Paratoi'r safle cyn y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

37.  Maint y safle.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

38.  Y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

39.  Swm yr organeddau sydd i'w gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

40.  Sut y caiff y safle ei aflonyddu, gan gynnwys math a dull yr amaethu, y cloddio, y dyfrhau neu'r gweithgareddau eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

41.  Y mesurau a gymerir i amddiffyn gweithwyr yn ystod y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

42.  Sut y caiff y safle ei drin wedi'r gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

43.  Y technegau a ragwelir ar gyfer dileu neu sicrhau nad yw'r organeddau a addaswyd yn enetig yn actif ar ddiwedd yr arbrawf neu ddiben arall y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

44.  Gwybodaeth am ollyngiadau blaenorol yr organeddau a addaswyd yn enetig a'u canlyniadau, ac yn arbennig, gollyngiadau ar raddfeydd gwahanol neu i ecosystemau gwahanol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Yr amgylchedd (ar y safle ac yn yr amgylchedd ehangach)LL+C

45.  Lleoliad daearyddol a chyfeirnod grid cenedlaethol y safle lle bwriedir gollwng, neu'r mannau a ragwelir ar gyfer defnyddio'r cynnyrch.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

46.  Agosrwydd ffisegol neu fiolegol safle'r organeddau a addaswyd yn enetig at bobl a biota arwyddocaol eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

47.  Agosrwydd at fiotopau arwyddocaol, ardaloedd gwarchodedig neu gyflenwadau dŵ r yfed.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

48.  Nodweddion hinsoddol y rhanbarth neu ranbarthau y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

49.  Y nodweddion daearyddol, daearegol a phriddegol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

50.  Y fflora a'r ffawna, gan gynnwys cnydau, da byw a rhywogaethau ymfudol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

51.  Disgrifiad o'r ecosystemau targed a'r rhai nad ydynt yn darged ac y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

52.  Cymhariaeth rhwng cynefin naturiol yr organeddau derbyn â safle neu safleoedd arfaethedig y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

53.  Unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau arfaethedig hysbys o ran defnydd tir yn y rhanbarth a allai ddylanwadu ar effaith amgylcheddol y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD

Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniadLL+C

54.  Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

55.  Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

56.  Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhyngweithiadau â'r amgylcheddLL+C

57.  Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

58.  Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

59.  Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—LL+C

(a)o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,

(b)o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

60.  Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

61.  Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

62.  Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

63.  Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

64.  Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

65.  Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

66.  Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 2 para. 66 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

67.  Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

68.  Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

69.  Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

70.  Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

71.  Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

72.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 2 para. 72 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VLL+CGWYBODAETH AM FONITRO, RHEOLI, TRIN GWASTRAFF A CHYNLLUNIAU YMATEB MEWN ARGYFWNG

Technegau monitroLL+C

73.  Dulliau ar gyfer olrhain yr organeddau a monitro eu heffeithiau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 2 para. 73 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

74.  Sbesiffigedd (i adnabod yr organeddau a addaswyd yn enetig ac i'w gwahaniaethu o'r rhoddwr, y derbynnydd neu, os yw'n briodol, yr organeddau rhieniol), sensitifrwydd a dibynadwyedd y technegau monitro.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 74 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

75.  Technegau ar gyfer canfod trosglwyddiad y deunydd genetig a roddwyd i organeddau eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 2 para. 75 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

76.  Hyd ac amlder y monitro.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 76 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoli'r gollyngiadLL+C

77.  Y dulliau a'r gweithdrefnau i osgoi a/neu leihau ymlediad yr organeddau a addaswyd yn enetig y tu hwnt i safle'r gollwng neu'r ardal a ddynodwyd ar gyfer eu defnyddio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 2 para. 77 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

78.  Dulliau a gweithdrefnau i amddiffyn y safle rhag ymyrraeth gan unigolion heb awdurdod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 78 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

79.  Dulliau a gweithdrefnau i atal organeddau eraill rhag cael mynediaid i'r safle.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 2 para. 79 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Trin gwastraffLL+C

80.  Y math o wastraff a gynhyrchir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 80 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

81.  Faint o wastraff a ddisgwylir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 2 para. 81 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

82.  Disgrifiad o'r driniaeth a ragwelir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 82 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cynlluniau ymateb mewn argyfwngLL+C

83.  Y dulliau a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r organeddau a addaswyd yn enetig os ydynt yn ymledu'n annisgwyl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 2 para. 83 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

84.  Dulliau, megis difodi'r organeddau a addaswyd yn enetig, ar gyfer dadhalogi'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 84 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

85.  Dulliau ar gyfer gwaredu neu lanweithio planhigion, anifeiliaid, priddoedd, ac unrhyw beth arall a amlygwyd yn ystod neu ar ôl yr ymlediad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 2 para. 85 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

86.  Dulliau ar gyfer ynysu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr ymlediad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 86 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

87.  Cynlluniau ar gyfer diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd rhag ofn y bydd effaith annymunol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 2 para. 87 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VILL+CGWYBODAETH AM FETHODOLEG

88.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 88 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill