xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, [F1y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall] a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.LL+C

2.  Enw a chyfeiriad [F2Undeb Ewropeaidd] y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn yr [F2Undeb Ewropeaidd] , gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn yr [F2Undeb Ewropeaidd] sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)