Rheoliadau 12 ac 17
ATODLEN 1LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL
1. Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac am ollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiad, ac am ei ddiogelwch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Teitl y prosiect.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN
3. Enw llawn y planhigyn—LL+C
(a)enw teuluol,
(b)genws,
(c)rhywogaeth,
(ch)isrywogaeth,
(d)llinell cyltifar/fridio,
(dd)enw cyffredin.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Gwybodaeth ynghylch—LL+C
(a)atgenhedliad y planhigyn:
(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,
(ii)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,
(iii)amser cenhedliad; a
(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:LL+C
(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,
(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:LL+C
(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a
(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Dosbarthiad daearyddol y planhigyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IIILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ADDASIAD GENETIG
10. Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw'r organedd neu'r organeddau rhoi pob rhan cyfansoddol o'r rhanbarth lle bwriedir eu cynnwys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG
13. Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:LL+C
(a)maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,
(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,
(c)rhif copi y mewnosodiad, a
(ch)lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—LL+C
(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,
(b)y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—LL+C
(a)modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,
(b)gwasgariad,
(c)y gallu i oroesi.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
25. Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan VLL+CGWYBODAETH YNGHYLCH SAFLE'R GOLLYNGIAD
(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C
26. Lleoliad a maint safle'r gollyngiad neu safleoedd y gollyngiadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
27. Disgrifiad o ecosystem safle'r gollyngiad, gan gynnwys hinsawdd, fflora a ffawna.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
28. Manylion unrhyw rywogaethau perthnasau gwyllt neu rywogaethau planhigion trin sy'n gydweddol yn rhywiol ac yn bresennol yn safleoedd y gollyngiadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
29. Agosrwydd safleoedd y gollyngiadau at fiotopau a gydnabyddir yn swyddogol neu ardaloedd gwarchodedig y gall gollyngiadau effeithio arnynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan VILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD
(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C
30. Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
31. Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
32. Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
33. Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
34. Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan VIILL+CGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF
(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C
35. Disgrifiad o—LL+C
(a)unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.
(b)unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
36. Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
37. Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
38. Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
39. Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
40. Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan VIIILL+CGWYBODAETH AM FETHODOLEG
41. Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 12 a 17
ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL
1. Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiadau ac am eu diogelwch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Teitl y prosiect.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG
Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbynLL+C
3. Enw gwyddonol a thacsonomi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Marcwyr ffenotypig a genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—LL+C
(a)dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;
(b)hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;
(c)gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;
(ch)pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;
(d)ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;
(dd)rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Hanes addasiadau genetig blaenorol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Nodweddion y fectorLL+C
15. Natur a ffynhonnell y fector.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetigLL+C
19. Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Y dulliau a ddefnyddiwyd—LL+C
(a)i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;
(b)i ddileu dilyniant.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetigLL+C
25. Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
26. Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
27. Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
28. Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo. LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
29. Actifedd y cynnyrch genynnol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
30. Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
31. Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
32. Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
33. Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—LL+C
(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,
(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,
(c)gallu'r organeddau i gytrefu,
(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—
(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,
(ii)heintusrwydd,
(iii)dogn heintiol,
(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,
(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,
(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,
(vii)sefydlogrwydd biolegol,
(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,
(ix)alergenedd, a
(x)argaeledd therapïau priodol; a
(d)peryglon eraill y cynnyrch.
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IIILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R AMODAU AR GYFER GOLLWNG
Y gollyngiadLL+C
34. Disgrifiad o'r gollyngiad bwriadol arfaethedig, gan gynnwys diben neu ddibenion y gollyngiad ac unrhyw fwriad i ddefnyddio'r organedd a addaswyd yn enetig fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
35. Dyddiadau arfaethedig y gollyngiad ac amserlen yr arbrawf gan gynnwys amledd a hyd y gollyngiadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
36. Paratoi'r safle cyn y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
37. Maint y safle.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
38. Y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
39. Swm yr organeddau sydd i'w gollwng.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
40. Sut y caiff y safle ei aflonyddu, gan gynnwys math a dull yr amaethu, y cloddio, y dyfrhau neu'r gweithgareddau eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
41. Y mesurau a gymerir i amddiffyn gweithwyr yn ystod y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
42. Sut y caiff y safle ei drin wedi'r gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
43. Y technegau a ragwelir ar gyfer dileu neu sicrhau nad yw'r organeddau a addaswyd yn enetig yn actif ar ddiwedd yr arbrawf neu ddiben arall y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
44. Gwybodaeth am ollyngiadau blaenorol yr organeddau a addaswyd yn enetig a'u canlyniadau, ac yn arbennig, gollyngiadau ar raddfeydd gwahanol neu i ecosystemau gwahanol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Yr amgylchedd (ar y safle ac yn yr amgylchedd ehangach)LL+C
45. Lleoliad daearyddol a chyfeirnod grid cenedlaethol y safle lle bwriedir gollwng, neu'r mannau a ragwelir ar gyfer defnyddio'r cynnyrch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
46. Agosrwydd ffisegol neu fiolegol safle'r organeddau a addaswyd yn enetig at bobl a biota arwyddocaol eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
47. Agosrwydd at fiotopau arwyddocaol, ardaloedd gwarchodedig neu gyflenwadau dŵ r yfed.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
48. Nodweddion hinsoddol y rhanbarth neu ranbarthau y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
49. Y nodweddion daearyddol, daearegol a phriddegol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
50. Y fflora a'r ffawna, gan gynnwys cnydau, da byw a rhywogaethau ymfudol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
51. Disgrifiad o'r ecosystemau targed a'r rhai nad ydynt yn darged ac y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
52. Cymhariaeth rhwng cynefin naturiol yr organeddau derbyn â safle neu safleoedd arfaethedig y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
53. Unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau arfaethedig hysbys o ran defnydd tir yn y rhanbarth a allai ddylanwadu ar effaith amgylcheddol y gollyngiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD
Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniadLL+C
54. Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
55. Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
56. Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhyngweithiadau â'r amgylcheddLL+C
57. Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
58. Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
59. Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—LL+C
(a)o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,
(b)o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
60. Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
61. Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
62. Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
63. Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
64. Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
65. Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
66. Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 2 para. 66 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
67. Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
68. Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
69. Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I110Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
70. Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I111Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
71. Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I112Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
72. Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I113Atod. 2 para. 72 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan VLL+CGWYBODAETH AM FONITRO, RHEOLI, TRIN GWASTRAFF A CHYNLLUNIAU YMATEB MEWN ARGYFWNG
Technegau monitroLL+C
73. Dulliau ar gyfer olrhain yr organeddau a monitro eu heffeithiau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I114Atod. 2 para. 73 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
74. Sbesiffigedd (i adnabod yr organeddau a addaswyd yn enetig ac i'w gwahaniaethu o'r rhoddwr, y derbynnydd neu, os yw'n briodol, yr organeddau rhieniol), sensitifrwydd a dibynadwyedd y technegau monitro.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I115Atod. 2 para. 74 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
75. Technegau ar gyfer canfod trosglwyddiad y deunydd genetig a roddwyd i organeddau eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I116Atod. 2 para. 75 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
76. Hyd ac amlder y monitro.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I117Atod. 2 para. 76 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoli'r gollyngiadLL+C
77. Y dulliau a'r gweithdrefnau i osgoi a/neu leihau ymlediad yr organeddau a addaswyd yn enetig y tu hwnt i safle'r gollwng neu'r ardal a ddynodwyd ar gyfer eu defnyddio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I118Atod. 2 para. 77 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
78. Dulliau a gweithdrefnau i amddiffyn y safle rhag ymyrraeth gan unigolion heb awdurdod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I119Atod. 2 para. 78 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
79. Dulliau a gweithdrefnau i atal organeddau eraill rhag cael mynediaid i'r safle.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I120Atod. 2 para. 79 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Trin gwastraffLL+C
80. Y math o wastraff a gynhyrchir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I121Atod. 2 para. 80 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
81. Faint o wastraff a ddisgwylir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I122Atod. 2 para. 81 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
82. Disgrifiad o'r driniaeth a ragwelir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I123Atod. 2 para. 82 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Cynlluniau ymateb mewn argyfwngLL+C
83. Y dulliau a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r organeddau a addaswyd yn enetig os ydynt yn ymledu'n annisgwyl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I124Atod. 2 para. 83 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
84. Dulliau, megis difodi'r organeddau a addaswyd yn enetig, ar gyfer dadhalogi'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I125Atod. 2 para. 84 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
85. Dulliau ar gyfer gwaredu neu lanweithio planhigion, anifeiliaid, priddoedd, ac unrhyw beth arall a amlygwyd yn ystod neu ar ôl yr ymlediad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I126Atod. 2 para. 85 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
86. Dulliau ar gyfer ynysu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr ymlediad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I127Atod. 2 para. 86 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
87. Cynlluniau ar gyfer diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd rhag ofn y bydd effaith annymunol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I128Atod. 2 para. 87 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan VILL+CGWYBODAETH AM FETHODOLEG
88. Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I129Atod. 2 para. 88 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 17(2)(ch) ac(f) a (6)
ATODLEN 3LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL
1. Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, [F1y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall] a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.LL+C
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 3 para. 1 wedi eu hamnewid (20.3.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/379), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I130Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Enw a chyfeiriad [F2Undeb Ewropeaidd] y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.LL+C
Diwygiadau Testunol
F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10
Gwybodaeth Cychwyn
I131Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I132Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I133Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn yr [F2Undeb Ewropeaidd] , gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.LL+C
Diwygiadau Testunol
F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10
Gwybodaeth Cychwyn
I134Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I135Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I136Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn yr [F2Undeb Ewropeaidd] sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.LL+C
Diwygiadau Testunol
F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10
Gwybodaeth Cychwyn
I137Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhan IILL+CGWYBODAETH BERTHNASOL YCHWANEGOL
9. Y mesurau sydd i'w cymryd pe bai organeddau yn y cynnyrch yn dianc neu pe bai'r cynnyrch yn cael ei gamddefnyddio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I138Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Cyfarwyddiadau neu argymhellion penodol ar gyfer storio a thrafod y cynnyrch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I139Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Cyfarwyddiadau penodol ar gyfer monitro a hysbysu'r ceisydd ac, os yw hynny'n angenrheidiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyson â Rhan C o Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I140Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Y cyfyngiadau arfaethedig yn y defnydd a gymeradwywyd ar gyfer yr organedd a addaswyd yn enetig, megis lle gellir defnyddio'r cynnyrch ac at ba ddibenion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I141Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Y pacediad arfaethedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I142Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Amcangyfrif o'r cynnyrch yn y Gymuned a/neu fewnforion iddi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I143Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Unrhyw labelu ychwanegol arafethedig, a allai gynnwys, o leiaf fel crynodeb, yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 4 a 5 o Ran I o'r Atodlen hon, neu baragraffau 9 i 12 o'r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I144Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 24, 26 a 32
ATODLEN 4LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIAD ASESU
1. Nodi nodweddion yr organedd derbyn sy'n berthnasol i'r asesiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I145Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Disgrifiad o'r ffordd y mae'r addasiad genetig yn effeithio ar nodweddion yr organeddau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I146Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Nodi unrhyw risgiau hysbys o newid i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng i'r amgylchedd yr organedd derbyn nas addaswyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I147Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Asesiad ynghylch a yw'r addasiad genetig wedi'i nodweddu'n ddigonol at ddibenion gwerthuso unrhyw risgiau i iechyd dynol a'r amgylchedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I148Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Dynodi unrhyw risgiau newydd i iechyd dynol a'r amgylchedd allai ddeillio o ollwng yr organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig o'i gymharu â gollwng yr organedd cyfatebol nas addaswyd yn enetig, yn seiliedig ar yr asesiad risg amgylcheddol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I149Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Diweddglo sy'n mynd i'r afael â defnydd arfaethedig o'r cynnyrch, rheoli risg a'r cynllun monitro arfaethedig, ac sy'n datgan a ddylid marchnata'r organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu na ddylid eu marchnata, gan gynnwys rhesymau pam y daethpwyd i'r casgliad hwnnw, ac a fwriedir gofyn am farn awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn ar agweddau penodedig yr asesiad risg amgylcheddol a beth yw'r agweddau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I150Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 39
ATODLEN 5LL+CDIRYMIADAU
Gwybodaeth Cychwyn
I151Atod. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1
Y Rheoliadau a Ddirymwyd | Cyfeiriadau | Graddau'r dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992 | O.S. 1992/3280 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993 (O.S. 1993/152), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995 (O.S. 1995/304), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1900), a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) (O.S. 2000/2831). | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993 | O.S. 1993/152 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995 | O.S. 1995/304 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997 | O.S. 1997/1900 | Rheoliad 2 |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2000 | O.S. 2000/2831 | Rheoliad 31(2) |