Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1387 (Cy.136)) ('y prif Reoliadau') fel a ganlyn:
1. Maent yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 9/12/02 (sy'n gosod mesurau diogelu dros dro mewn perthynas â mewnforion o gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid i'w bwyta gan yr unigolyn) (heb ei gyhoeddi eto yn yr O.J.) drwy roi rheoliad 3A newydd yn lle rheoliad 3 yn y prif Reoliadau. Mae'r amnewid hwn yn diwygio'r esemptiad o rannau penodol o'r prif Reoliadau bod mewnforion personol yn bodloni meini prawf penodol fel na fydd yr esemptiad yn gymwys bellach, gyda dau eithriad, i gig a chynhyrchion cig, llaeth a chynhyrchion llaeth (rheoliad 2(2)).
2. Maent yn tynnu pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i benodi personau annibynnol i wrando apelau yn erbyn taliadau a godir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn ei gwneud yn swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 2(3)).
3. Maent yn mewnosod yn rheoliad 53 o'r prif Reoliadau ddarpariaeth sy'n cyfateb i reoliad 53(2) (mewn perthynas ag apelau yn erbyn taliadau am archwiliadau milfeddygol a delir i awdurdod lleol) ynghylch ailgyfrifo'r taliad ac ad-dalu'r gwahaniaeth rhwng y taliad gwreiddiol a'r taliad a ailgyfrifwyd mewn perthynas ag apelau yn erbyn taliadau a delir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth (rheoliad 2(4)).
4. Maent yn rhoi Atodlen newydd yn lle Atodlen 2 o'r prif Reoliadau (rheoliad 2(5)).
5. Ni ddarparwyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn.