Rhagolygol
RHAN IILL+CPERSONAU COFRESTREDIG
Ffitrwydd y darparydd cofrestredigLL+C
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff ac—
(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”)) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion—
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; ac
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn—
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997(1) wedi ei dwyn i rym.
(5) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal—
(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi cael gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Penodi rheolwrLL+C
8.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cartref gofal—
(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal; a
(b)os yw'r darparydd cofrestredig—
(i)yn gorff;
(ii)heb fod yn berson ffit i reoli cartref gofal; neu
(iii)heb fod yn gyfrifol am y cartref gofal yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref gofal, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
(a)o enw'r person a benodwyd felly; a
(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sy'n mynd i reoli'r cartref gofal rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Ffitrwydd y rheolwr cofrestredigLL+C
9.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref;
(b)o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth—
(i)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r cartref gofal; a
(ii)bod ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cartref gofal.
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person—
(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997(2) wedi ei dwyn i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Person cofrestredig— gofynion cyffredinolLL+C
10.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg y cartref gofal neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig—
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd.
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Hysbysu tramgwyddauLL+C
11. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)o ddyddiad y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd y'i collfarnwyd o'i herwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi eu dwyn i rym hyd yn hyn. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.
1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115 , fel y'u diwygiwyd, wedi eu dwyn i rym hyd yn hyn. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.