Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part III:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

RHAN IIILL+CRHEDEG Y CARTREF GOFAL

Iechyd a lles defnyddwyr gwasanaethLL+C

12.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd—

(a)yn hybu iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth a gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer;

(b)yn gwneud darpariaeth briodol ar gyfer gofal y defnyddwyr gwasanaeth ac, os yw'n briodol, ar gyfer eu triniaeth, eu haddysg a'u goruchwyliaeth.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal y maent i'w gael ac â'u hiechyd a'u lles.

(3Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cymryd i ystyriaeth er mwyn darparu gofal iddynt a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu hiechyd a'u lles.

(4Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg—

(a)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y defnyddwyr gwasanaeth;

(b)gan roi sylw dyledus i ryw, cyfeiriadedd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.

(5Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un), mewn perthynas â rhedeg y cartref gofal—

(a)cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda'i gilydd a chyda defnyddwyr gwasanaeth a chyda staff; a

(b)annog a chynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda defnyddwyr gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Gofynion pellach ynghylch iechyd a llesLL+C

13.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth—

(a)cael eu cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol o'u dewis; a

(b)cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob rhan o'r cartref y gall defnyddwyr gwasanaeth fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;

(c)bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac

(ch)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.

(5Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.

(6Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

(8Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Asesu defnyddwyr gwasanaethLL+C

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â darparu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal oni bai bod y camau canlynol wedi'u cwblhau, i'r graddau y bydd wedi bod yn ymarferol gwneud hynny—

(a)bod anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wedi'u hasesu gan berson â chymwysterau neu hyfforddiant addas;

(b)bod y person cofrestredig wedi cael gafael ar gopi o'r asesiad;

(c)bod ymgynghoriad priodol wedi'i gynnal ynghylch yr asesiad â'r defnyddiwr gwasanaeth neu â chynrychiolydd i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(ch)bod y person cofrestredig wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i'r defnyddiwr gwasanaeth fod y cartref gofal yn addas at ddibenion diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les, o roi sylw i'r asesiad.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth—

(a)yn cael ei gadw o dan sylw; a

(b)yn cael ei adolygu ar unrhyw adeg pan fydd angen gwneud hynny o roi sylw i unrhyw newid amgylchiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Cynllun defnyddiwr gwasanaethLL+C

15.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“y cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s plan”)), ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad, ynghylch sut y bwriedir diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les.

(2Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol, sicrhau bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi'i baratoi gan yr awdurdod lleol hwnnw;

(b)trefnu bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth ar gael i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(c)cadw'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw;

(ch)adolygu'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth os yw'n briodol, a hynny ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad; ac

(d)hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw adolygiad o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Cyfleusterau a gwasanaethauLL+C

16.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth yn unol â datganiad o ddiben y cartref gofal.

(2O roi sylw i faint y cartref gofal ac i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig—

(a)darparu, i'r graddau y mae angen hynny er mwyn rheoli'r cartref gofal—

(i)cyfleusterau ffôn priodol;

(ii)cyfleusterau priodol ar gyfer cyfathrebu drwy drosglwyddiadau ffacsimili;

(b)darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a gwneud trefniadau i alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn breifat;

(c)darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan y defnyddwyr gwasanaeth, ddodrefn, dillad gwely a chelfi digonol eraill, gan gynnwys llenni a gorchuddion i'r llawr, ac offer sy'n addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a sgriniau os oes eu hangen;

(ch)annog y defnyddwyr gwasanaeth, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, i ddod â'u dodrefn a'u celfi eu hunain i'r ystafelloedd y maent yn eu meddiannu;

(d)trefnu ar gyfer golchi llieiniau a dillad yn rheolaidd;

(dd)darparu, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth olchi, sychu a smwddio'u dillad eu hunain os dymunant ac, at y diben hwnnw, gwneud trefniadau i'w dillad gael eu didoli a'u cadw ar wahân;

(e)darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd;

(f)darparu cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth baratoi eu bwyd eu hunain a sicrhau bod cyfleusterau o'r fath yn ddiogel i gael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;

(ff)darparu, mewn symiau digonol, fwyd addas, iachus a maethlon sy'n amrywiol ac wedi'i baratoi'n briodol ac ar gael ar unrhyw adeg y mae'n rhesymol i'r defnyddwyr gwasanaeth ofyn amdano;

(g)gwneud trefniadau addas ar gyfer cynnal safonau boddhaol o hylendid yn y cartref gofal ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny;

(ng)cadw'r cartref gofal yn rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol;

(h)darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y defnyddwyr gwasanaeth gael eu hadneuo i gael eu cadw'n ddiogel, a gwneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth gydnabod yn ysgrifenedig fod unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuwyd wedi'u dychwelyd iddynt;

(i)ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu diddordebau cymdeithasol, a gwneud trefniadau i'w galluogi i ymgymryd â gweithgareddau lleol, cymdeithasol a chymunedol ac ymweld â'u teuluoedd a'u cyfeillion, neu gadw cysylltiad neu gyfathrebu â hwy;

(j)ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch y rhaglen o weithgareddau a drefnir gan y cartref gofal neu ar ei ran, a darparu cyfleusterau hamdden, gan gynnwys gweithgareddau mewn perthynas â hamdden, ffitrwydd a hyfforddi, gan roi sylw i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol, fod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.

(4Yn y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys diod.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

CofnodionLL+C

17.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw cofnod mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth sy'n cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion eraill a bennir yn Atodlen 3 ynghylch y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)sicrhau bod y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnod yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.

(2Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnodion yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu eu bod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn cael eu cadw yn gyfoes.

(4Rhaid parhau i gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) am o leiaf dair blynedd ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddynt, ac eithrio cofnod a gedwir o dan baragraff 13 o Atodlen 4 y mae angen ei gadw am flwyddyn yn unig ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddo.

(5Nid yw'r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) neu reol gyfreithiol arall ynghylch cofnodion neu wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

StaffioLL+C

18.—(1Gan roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y materion canlynol—

(a)bod personau cymwys a chanddynt gymwysterau addas, medrus a phrofiadol yn gweithio yn y cartref gofal bob amser, mewn niferoedd sy'n briodol ar gyfer iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth;

(b)na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref gofal yn atal y defnyddwyr gwasanaeth rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion;

(c)bod y personau a gyflogir gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal yn cael—

(i)hyfforddiant sy'n briodol i'r gwaith y maent i'w gyflawni; a

(ii)cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i waith o'r fath.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael eu goruchwylio'n briodol.

(3Os yw'r cartref gofal—

(a)yn darparu gwasanaeth nyrsio i ddefnyddwyr gwasanaeth; a

(b)yn darparu, p'un a ydyw mewn cysylltiad â nyrsio neu beidio, feddyginiaethau neu driniaeth feddygol i ddarparwyr gwasanaeth;

rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod nyrs gofrestredig a chanddi gymwysterau addas yn gweithio yn y cartref gofal bob amser.

(4Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i roi gwybodaeth briodol am unrhyw God Ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o'r Ddeddf i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Ffitrwydd y gweithwyrLL+C

19.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)beidio â chyflogi person i weithio yn y cartref gofal dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny;

(b)beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(c)beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf(1) yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai—

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio yn y cartref gofal;

(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni;

(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol—

(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;

(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997 wedi ei dwyn i rym.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref plant a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.

(5Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf paragraff (4)(b)—

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 yn Atodlen 2 yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—

(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 yn Atodlen 2;

(ii)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno;

(iii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;

(c)bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac

(ch)bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

(6Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan 1 Ebrill 2003 mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Cyfyngiadau ar weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaethLL+C

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â thalu arian sy'n perthyn i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth i gyfrif banc oni bai—

(a)bod y cyfrif yn enw'r defnyddiwr gwasanaeth y mae'r arian yn perthyn iddo; a

(b)nad yw'r cyfrif yn cael ei ddefnyddio gan y person cofrestredig mewn cysylltiad â rhedeg neu reoli'r cartref gofal.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arian sy'n cael ei dalu i'r person cofrestredig mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy gan ddefnyddiwr gwasanaeth am lety neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y person cofrestredig yn y cartref gofal.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y bo'n ymarferol nad yw'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn gweithredu fel asiant i ddefnyddiwr gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofalLL+C

21.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y cartref gofal i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les defnyddwyr gwasanaeth.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Gweithdrefn disgyblu staffLL+C

22.—(1Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn disgyblu staff a fydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill llai difrifol nag atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er mwyn diogelwch neu les y defnyddwyr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal; a

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir, ar ddefnyddiwr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal i berson priodol yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.

(2At ddibenion paragraff (1), person priodol yw'r person cofrestredig, swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf neu swyddog o'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref ynddi, neu gwnstabl.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

CwynionLL+C

23.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion” (“the complaints procedure”)) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.

(2Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwyn a wneir o dan y weithdrefn gwynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.

(4Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwyn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(5Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r weithdrefn gwynion i bob defnyddiwr gwasanaeth ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.

(6Pan fydd copi o'r weithdrefn gwynion i'w chyflwyno yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu berson â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw hynny'n ymarferol, gyflwyno copi o'r weithdrefn gwynion mewn ffurf sy'n addas i'r person hwnnw yn ogystal â chopi ysgrifenedig.

(7Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cartref gofal.

(8Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu wedi bod yn sâl; sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu wedi bod yn dibynnol arnynt.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill