xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN VILL+CPLANT

Cymhwyso'r Rhan honLL+C

28.  Bydd darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys pan fydd unrhyw blentyn yn cael ei letya yn y cartref gofal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 28 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

29.  Yn rheoliad 2, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai—

(a)y geiriau “, neu unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth”;

(b)y diffiniadau canlynol wedi'u hychwanegu yn y mannau priodol—

mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12 (Cynllun lleoliad y plentyn) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002;

mae i “awdurdod lleoli” (“placing authority”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 29 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Datganiad o ddibenLL+C

30.  Yn rheoliad 4, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

ac

(c)yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 5..

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 30 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Y person cofrestredigLL+C

31.—(1Yn rheoliad 7, bydd paragraff (3) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

ac

(ch)bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant..

(2Yn rheoliad 9, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

ac

(ch)bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant a naill ai—

(i)bod ei gymwysterau'n addas at ddibenion gweithio gyda phlant; neu

(ii)bod person arall wedi'i benodi er mwyn ei helpu wrth reoli'r cartref gofal, a bod cymwysterau'r person a benodwyd felly yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant..

(3Yn rheoliad 10, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth,” wedi'u disodli gan y geiriau “nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a'r angen i ddiogelu a hybu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 31 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Darpariaeth ar wahân ar gyfer plantLL+C

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod y ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer gofal, triniaeth a goruchwyliaeth plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal; a

(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer,

yn cael eu gwneud ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaeth eraill i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny.

(2Ni fydd paragraff (1) yn atal y person cofrestredig rhag gwneud darpariaeth ar y cyd ar gyfer plant a defnyddwyr gwasanaeth eraill nad yw eu hoedran yn arwyddocaol o wahanol i oedran y plant hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 32 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Lles a diogelwch plantLL+C

33.—(1Bydd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer diogelu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

(2Bydd darpariaethau rheoliadau 12, 15 i 18, 23 a 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (cynlluniau lleoliadau plant; cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu; trefniadau ar gyfer amddiffyn plant; rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal; addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden; peryglon a diogelwch; digwyddiadau hysbysadwy), ac Atodlen 5 iddynt, yn gymwys i'r person cofrestredig fel pe bai—

(a)unrhyw gyfeiriad at y person cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig fel y mae wedi'i ddiffinio yn y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw gyfeiriad at y cartref plant neu at y cartref yn gyfeiriadau at y cartref gofal.

(3Os bydd y person cofrestredig yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol, sef—

(a)salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol y mae plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal wedi dioddef;

(b)brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal neu yn ymwneud â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,

ni fydd yn ofynnol iddo roi hysbysiad o'r digwyddiad hwnnw ar wahân i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 38 (hysbysu marwolaeth, etc.) o'r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 33 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Ffitrwydd y gweithwyrLL+C

34.  Yn rheoliad 19, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—

ac

(d)bod ei gymwysterau, ei brofiad, ei gymhwysedd a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant..

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 34 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Gweithdrefn disgyblu'r staffLL+C

35.  Yn rheoliad 22, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “neu, mewn perthynas â phlentyn a letyir yn y cartref, swyddog o'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.” wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 35 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Adolygu ansawdd y gofalLL+C

36.  Bydd rheoliad 25 yn effeithiol fel pe bai—

(a)y system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) o reoliad 25 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r materion a nodir yn Atodlen 6 gael eu monitro a'u hadolygu ar adegau priodol;

(b)y geiriau “a'u cynrychiolwyr” wedi'u disodli gan y geiriau “, eu cynrychiolwyr, rhieni'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ac, mewn perthynas â'r plant hynny, yr awdurdodau lleoli” ym mharagraff (3) o reoliad 25;

(c)y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd rheoliad 25—

(4) Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu neu'n rhoi terfynau ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol gwahardd ymgynghoriad o'r fath, neu gyfyngu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 36 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

TramgwyddauLL+C

37.  Bydd rheoliad 44 yn effeithiol fel pe bai'r paragraff canlynol yn disodli paragraff (1)—

(1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—

(a)rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41, i'r graddau y mae'r rheoliadau hynny'n effeithiol yn ddarostyngedig i Ran VI o'r Rheoliadau hyn;

(b)rheoliadau 32 a 35; ac

(c)y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 33..

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)