Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Gofynion pellach ynghylch iechyd a llesLL+C

13.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth—

(a)cael eu cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol o'u dewis; a

(b)cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob rhan o'r cartref y gall defnyddwyr gwasanaeth fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;

(c)bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac

(ch)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.

(5Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.

(6Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

(8Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)