- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 5(1);
ystyr “awdurdod iechyd amgylchedd” (“environmental health authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;
[F1ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”), o ran cartref gofal, yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;]
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;
ystyr “cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s plan”) yw'r cynllun ysgrifenedig a baratoir yn unol â rheoliad 15(1);
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi yn y cartref gofal, sydd, gyda chydsyniad pendant neu gydsyniad awgrymedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg y cartref gofal;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r daganiad a lunir yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson sy'n cael ei letya yn y cartref gofal y mae arno angen gofal nyrsio neu ofal personol oherwydd anabledd, llesgedd, salwch yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw—
priod [F2neu bartner sifil] y person;
unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, ŵ yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod [F2neu bartner sifil] y person;
priod [F2neu bartner sifil] unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;
ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, F4... mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel pe baent yn ŵr a gwraig [F5, ac mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys partner sifil blaenorol.] ;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref gofal, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(1) yn gymwys iddo [F6neu sy'n seicolegydd clinigol] [F7neu'n seicotherapydd plant];
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn rheolwr y cartref gofal;
ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal ond nid yw'n cynnwys gwirfoddolwr na pherson sy'n cael ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”), mewn perthynas â chartref gofal, yw—
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 48 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi, y swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
[F8ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—
yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2),
yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(3); neu
yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.]
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—
(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;
(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (25.10.2005) gan Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2929), erglau. 1(1), 65(2)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(a)(i)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2935), rhlau. 1(1), 2(2)
F4Gair yn rhl. 2(1) wedi ei dirymu (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(a)(ii)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(a)(iii)
F6rhl. 2(1) : testun wedi'i ddiwygio (1.7.2009) yn rhinwedd The Health Care and Associated Professions (Miscellaneous Amendments and Practitioner Psychologists) Order 2009 (O.S. 2009/1182), ergl. 1(9), Atod. 4 para. 6; O.S. 2009/1357, ergl. 2(1)(c)
F7Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.5.2004) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/1314), rhlau. 1(1), 2
F8rhl. 2(1): testun wedi'i ddiwygio (1.4.2004) gan The General Medical Services Transitional and Consequential Provisions (Wales) (No. 2) Order 2004 (O.S. 2004/1016), ergl. 1(1), Atod. 1 para. 26(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys