Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Rheoliadau 4 a 30

ATODLEN 5LL+CGWYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN PAN FYDD PLANT YN CAEL EU LLETYA

1.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Y manylion canlynol—LL+C

(a)eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;

(b)a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 5 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)