Gweithdrefnau llawfeddygol
36.—(1) Pan ddarperir triniaeth feddygol (gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig) o dan anesthesia neu dawelydd mewn ysbyty annibynnol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod pob theatr lawdriniaeth yn cael ei chynllunio, ei chyfarparu a'i chynnal yn ôl safon sy'n briodol ar gyfer ei defnydd;
(b)bod pob llawdriniaeth yn cael ei gwneud gan, neu o dan gyfarwyddyd, ymarferydd meddygol a chanddo gymwysterau, medrau a phrofiad addas;
(c)bod nifer priodol o gyflogeion a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas yn bresennol yn ystod pob gweithdrefn lawdriniaethol; a
(ch)bod y claf yn cael triniaeth briodol—
(i)cyn bod anesthetig neu dawelydd yn cael ei roi;
(ii)tra'i fod yn cael gweithdrefn lawdriniaethol;
(iii)tra'i fod yn ymadfer ar ôl anesthesia cyffredinol; a
(iv)wedi'r llawdriniaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau cyn i glaf gydsynio ag unrhyw lawdriniaeth a gynigir gan yr ysbyty annibynnol, bod y claf wedi cael gwybodaeth glir a chynhwysfawr ynghylch y weithdrefn ac unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â hi.
(3) Yn achos claf nad yw'n gymwys i gydsynio â llawdriniaeth, rhaid darparu'r wybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2), pryd bynnag y bo modd, i'w gynrychiolwyr.