xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
17.—(1) Heb ragfarnu paragraff (5), rhaid peidio â defnyddio, ar unrhyw adeg, unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol neu'n afresymol ar blant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, baratoi a dilyn polisi ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “polisi rheoli ymddygiad”) sy'n nodi—
(a)y mesurau ar gyfer rheoli, atal a disgyblu y gellir eu defnyddio yn y cartref plant; a
(b)drwy ba fodd y mae ymddygiad priodol i'w hyrwyddo yn y cartref.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cadw golwg ar y polisi rheoli ymddygiad a'i adolygu lle bo'n briodol; a
(b)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau o fewn 24 awr o ddefnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu mewn cartref plant fod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud mewn cyfrol a gedwir at y diben, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys—
(a)enw'r plentyn o dan sylw;
(b)manylion ymddygiad y plentyn a arweiniodd at ddefnyddio'r mesur;
(c)disgrifiad o'r mesur a ddefnyddiwyd;
(ch)dyddiad, amser a lleoliad defnyddio'r mesur (gan gynnwys, yn achos unrhyw fath o atal, cyfnod yr atal);
(d)enw'r person a ddefnyddiodd y mesur, ac enw unrhyw berson arall a fu'n bresennol;
(dd)effeithiolrwydd defnyddio'r mesur ac unrhyw ganlyniadau; ac
(e)llofnod person a awdurdodwyd gan y darparydd cofrestredig i wneud y cofnod.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol yn erbyn plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant—
(a)unrhyw fath o gosb gorfforol;
(b)unrhyw gosb sy'n ymwneud â chymryd bwyd neu ddiod, neu amddifadu o fwyd neu ddiod;
(c)unrhyw gyfyngiad heblaw cyfyngiad a orfodir yn unol â rheoliad 15, ar y canlynol—
(i)cysylltiadau plentyn â'i rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion;
(ii)ymweliadau â'r plentyn gan ei rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion;
(iii)cyfathrebu'r plentyn ag unrhyw un o'r personau a restrir yn rheoliad 15(2); neu
(iv)ei gyfle i ddefnyddio unrhyw linell gymorth ffôn sy'n cynnig cwnsela neu gyngor i blant;
(ch)unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;
(d)defnyddio neu atal meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol fel mesur disgyblu;
(dd)atal cwsg yn fwriadol;
(e)gosod unrhyw gosb ariannaol, heblaw gofyniad am dalu swm rhesymol (y gellir ei wneud drwy randaliadau) fel iawndal;
(f)unrhyw archwiliad corfforol agos o blentyn;
(ff)atal unrhyw gynorthwyon neu offer y mae ar blentyn anabl eu hangen;
(g)unrhyw fesur sy'n golygu—
(i)ymglymu plentyn wrth orfodi unrhyw fesur yn erbyn unrhyw blentyn arall; neu
(ii)cosbi grŵ p o blant am ymddygiad plentyn unigol.
(6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd—
(a)cymryd unrhyw gamau gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig, neu yn unol â chyfarwyddiadau ganddynt, sy'n angenrheidiol i amddiffyn iechyd plentyn;
(b)gorfodi gofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol at ddibenion chwaraeon, neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'i addysg neu ag unrhyw gorff y mae ei aelodau yn arfer gwisgo dillad unffurf mewn cysylltiad â'i weithgareddau.
(7) Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraff (6) os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)