Anghenion iechyd plant
20.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig hybu ac amddiffyn iechyd y plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.
(2) Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod pob plentyn wedi'i gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol;
(b)bod gan bob plentyn gyfle i gael unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, seicolegol a seiciatryddol neu gyngor, triniaeth a gwasanaethau nyrsio y gall fod arno'u hangen;
(c)bod pob plentyn yn cael unrhyw gymorth, cymhorthion ac offer unigol y gall fod arno'i angen yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol a all fod ganddo;
(ch)bod pob plentyn yn cael canllawiau, cymorth a chyngor ar faterion iechyd a gofal personol sy'n briodol i'w hanghenion a'u dymuniadau;
(d)bod o leiaf un person ar ddyletswydd yn y cartref bob amser sydd â chymhwyster cymorth cyntaf addas; a
(dd)bod unrhyw berson sy'n cael ei benodi i swydd nyrs yn y cartref plant yn nyrs gofrestredig.