- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
4.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r cartref plant ddatganiad a ysgrifennir ar bapur a fydd yn cynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1 (“y datganiad o ddiben”).
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio ar unrhyw adeg resymol gan—
(a)unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant;
(b)unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;
(ch)awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; a
(d)yn achos ysgol gymwys, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac unrhyw berson sy'n arfer un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y ddeddfwriaeth addysg mewn perthynas â'r ysgol;
ac yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant yn cynnwys plentyn y mae llety yn y cartref plant yn cael ei ystyried ar ei gyfer.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â chydymffurfio â pharagraff 2(c) mewn perthynas â phlentyn os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gyswllt rhwng y plentyn a'i riant a'i bod yn angenrheidiol cyfyngu ar argaeledd y datganiad, neu unrhyw ran ohono, er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr 'deddfwriaeth addysg' yw'r Deddfau Addysg (fel y'u diffinnir gan adran 578 o Ddeddf Addysg 1996(1)).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad i'r cartref plant ar ffurf sy'n briodol ar gyfer oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant sydd i gael eu lletya yn y cartref (“arweiniad y plant”) a rhaid iddo gynnwys—
(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben y cartref;
(b)crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlir o dan reoliad 24; ac
(c)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac un o swyddfeydd Comisiynydd Plant Cymru.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)darparu copi o arweiniad cyntaf y plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)darparu copi o fersiwn gyfredol arweiniad y plant i bob plentyn ac i awdurdod lleoli'r plentyn pan fydd y plentyn yn cael ei letya gyntaf yn y cartref; ac
(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y plentyn neu'r awdurdod lleoli.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(8) Nid oes dim ym mharagraff (7) nac yn rheoliad 30(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy—
(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys