- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 4(1)
1. Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
2. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
3. Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.
5. Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.
6. Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.
7. Strwythur trefniadol y cartref.
8. Y manylion canlynol—
(a)ystod oedran, rhyw a niferoedd y plant y bwriedir darparu llety ar eu cyfer;
(b)a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill;
(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.
9. Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).
10. Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglŷn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
11. Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.
12. Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
13. Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.
14. Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.
15. Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.
16. Manylion—
(a)polisi'r cartref ar reoli ymddygiad a defnyddio ataliadau;
(b)y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.
17. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.
18. Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.
19. Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.
20. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.
21. Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.
22. Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.
23. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.
24. Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.
25. Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.
26. Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.
27. Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys