Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 763 (Cy.82)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

19 Mawrth 2002

Yn dod i rym

8 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynalliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymym hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 8 Ebrill 2002.

(2Mae'r Gorchymym hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Cyrff a bennir

2.  Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156(3) o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon)—

(a)igroup uk loans limited — Rhif y Cwmni 3749420

(b)igroup2 limited — Rhif y Cwmni 3610605

(c)igroup3 limited — Rhif y Cwmni 3730890

(ch)igroup4 limited — Rhif y Cwmni 3797432

(d)igroup5 limited — Rhif y Cwmni 3770763

(dd)igroup mortgages limited — Rhif y Cwmni 3770776

(e)E-Mex Home Funding Limited — Rhif y Cwmni 2124900

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn un pennu saith corff yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu).

Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol, sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.

At ddibenion yr adran mae sefydliadau benthyca cymeradwy yn gymdeithasau adeiladu, yn fanciau, yn gwmnïau yswiriant, yn gymdeithasau cyfeillgar ac yn unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r cyrff hyn hefyd yn dod yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).

Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a benwyd yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion yr hawliau hynny.

(1)

1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynylliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai, Datblygu Trefol 1993 (p.28).