xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardalLL+C

6.—(1Caiff person sydd â phŵ er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol perthnasol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.

(2Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni bai bod y person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.

(3Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (2) uchod, yna, oni bai bod y pwyllgor ardal neu'r person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

(4Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau gan bwyllgor ardal i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(5Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r weithrediaeth sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(6Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (5) uchod, rhaid i'r weithrediaeth roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)