Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

2.—(1Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(1) yn unol â'r erthygl hon.

(2Yn erthygl 1, rhodder “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.

(3Yn erthygl 3—

(a)ar ôl paragraff (2)(b)(xxi) ychwaneger y canlynol—

(xxii)symudiad anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd ar safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw wedi ymadael â'r cyfrwng cludo tra bu ar y safle.;

(b)ym mharagraff (3)(e)(iv) rhodder y gair “diweddaraf” yn lle “cynharaf”;

(c)yn lle paragraff (3)(ng) rhodder y paragraff canlynol—

(ng)anifail o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig ar ôl cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall;.

(4Yn lle erthygl 8 rhodder yr erthygl ganlynol—

Cyfleusterau glanhau a diheintio

8.  Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.

Trwyddedau penodol

8A.(1) Rhaid i anifail a symudir o dan drwydded benodol—

(a)gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a

(b)bod y drwydded gydag ef drwy gydol y symudiad.

(2) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded benodol gael ei gadw ar wahân, drwy gydol y symudiad, i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno.

(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded, a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud, roi ei enw a'i gyfeiriad.

(4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, oni bai i'r drwydded ddarparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—

(a)sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho;

(b)yn achos lladd-dy, roi copi i'r llawfeddyg milfeddygol swyddogol; ac

(c)cadw'r drwydded am chwe mis a'i dangos i arolygydd os gofynnir amdani.

Trwyddedau cyffredinol

8B.  Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol, ac mae'r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n symud yr anifeiliaid fod â dogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—

(a)sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;

(b)llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, ei lofnodi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; a

(c)cadw copi o'r ddogfen wedi ei llenwi am chwe mis.

Copïau o drwyddedau

8C.  Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis..

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill