xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1Darpariaeth drosiannolLL+C

12.[F2(1)] Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—

(a)bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a

(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.]

[F3(2) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy’n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(b) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi’r canlynol yn amddiffyniad—

(a)bod zinc wedi’i ddefnyddio wrth weithgynhyrchu’r ychwanegyn bwyd a bod yr ychwanegyn bwyd wedi’i farcio neu wedi’i labelu cyn 10 Chwefror 2023; a

(b)na fyddai’r materion sy’n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 10 Chwefror 2023.]