Dehongli
3. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs”) yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996(1));
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw neu, os nad yw'r un flwyddyn ysgol yn gymwys i bob ysgol o'r fath, y flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r nifer fwyaf o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw;
ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun trefniadaeth ysgolion a rhaid dehongli “cynllun drafft” (“draft plan”) yn unol â hynny; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(1)