Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny (“Rheoliadau 1995”) wrth gael eu cymhwyso i Gymru ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer sterileiddio neu staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar gyfer symud y sgil-gynhyrchion hynny.

2.  Effaith y diwygiadau yw na chaniateir sterileiddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o hyn allan. Mae staenio bellach yn ofynnol ym mhob achos, ac eithrio pan bennir hynny yn rheoliad 5(2), 6(2) neu 7(2) o Reoliadau 1995. Effaith y diwygiadau yw nad yw staenio'n ofynnol pan symudir sgil-gynnyrch anifail ar unwaith yn y dull a bennir yn rheoliad 6(4) neu, yn ôl y digwydd, 7(3) o Reoliadau 1995 i dir ac adeiladau a gymeradwyir o dan erthygl 7 o Orchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646, fel y'i diwygiwyd) i'w rendro yno neu i dir ac adeiladau eraill i'w hylosgi yn unol ag erthygl 10 o'r Gorchymyn hwnnw.

3.  Dileir yr esemptiad o'r gofyniad o ran staenio neu sterileiddio y mae rheoliadau 6 a 7 yn ei osod ac a gynhwysir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau 1995 ac sy'n gweithredu o blaid sgil-gynhyrchion dofednod ac yn lle'r esemptiad hwnnw rhoddir esemptiad sy'n gweithredu o blaid pennau a thraed dofednod a fu'n destun archwiliad milfeddygol post mortem na ddangosodd, yn ystod yr archwiliad hwnnw, unrhyw anafiadau patholegol sylweddol a oedd yn nodi afiechyd y gellid ei drosglwyddo i ddyn neu anifeiliaid (rheoliad 2(4)).

4.  Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaeth ddehongli Rheoliadau 1995 drwy roi diffiniad newydd sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 ac yn mewnosod diffiniad o “approved premises” yn lle'r diffiniad sy'n dynodi Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1992. Mae Rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiad i'r diffiniad o “animal by-product” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 1995.

5.  Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ohono wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau pellach o'r asesiad oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF1 1EW.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill