- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3. Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a)ym mharagraff (1) —
(i)caiff y diffiniadau canlynol eu dileu —
(aa)unrhyw ddiffiniad rai yn cychwyn â'r ymadrodd “sefydliadau a gymeradwywyd gan y CE”, “sefydliadau a ganiateir gan y CE”, “sefydliadau a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewropeaidd”, “sefydliadau a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd” “sefydliadau a gymeradwywyd gan y DU” neu “sefydliadau a ganiateir gan y DU”,
(bb)“rhestr genedlaethol”, a
(cc)“trydedd wlad”,
(ii)ym mhob un o'r diffiniadau o “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, yn lle'r ymadrodd “rheoliad 12(10)(a)” rhodder yr ymadrodd “rheoliad 12(6)” ac yn y diffiniad o “porthiant”, yn lle'r ymadrodd “rheoliad 12(11)(a)” rhodder yr ymadrodd “rheoliad 12(7)”,
(iii)yn lle'r diffiniad o “porthiant cyfansawdd caiff y diffiniad canlynol ei roi
“mae i “porthiant cyfansawdd” yr ystyr a roddir i “compound feeding stuff” yn y Gyfarwyddeb Porthiant Cyfansawdd;”,
(iv)yn y diffiniad o “deunydd porthiant” caiff yr ymadrodd “, yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(b),” ei ddileu,
(v)yn union ar ôl y diffiniad o “cynnyrch canolraddol awdurdodedig” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod —
“ystyr “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” yw unrhyw gynnyrch a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd i anifail anwes, creaduriaid a ffermir neu anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt;”,
(vi)yn lle'r diffiniad o “rhoi mewn cylchrediad” caiff y diffiniad canlynol ei roi
“ystyr “rhoi mewn cylchrediad” yw gwerthu neu drosglwyddo fel arall, cael yn eich meddiant gyda'r bwriad o werthu neu drosglwyddo fel arall, neu gynnig ar werth, a hynny ym mhob achos i drydydd parti, ond ei ystyr hefyd yn rheoliad 12 yw mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd nac yn rhan o un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;” a
(vii)yn union ar ôl y diffiniad o “starts” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod —
“ystyr “sylwedd annymunol” yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw'n asiant pathogenaidd ac sy'n cael ei gynnwys mewn cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid neu sydd arno ac—
sydd â'r potensial i fod yn beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol neu i'r amgylchedd; neu
a allai effeithio'n andwyol ar gynhyrchu da byw;”; a
(b)yn lle paragraff (8) (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi —
“(8) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o Offerynnau'r Gymuned ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003.”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys