Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

4.—(1 Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol —

(a)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1) neu (6) o'r Ddeddf(1) o'i darllen gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; ac

(ch)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn wedi'i dorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y credir y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

(1)

Diwygiwyd is-adran (6) gan adran 22(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981. Yn rhinwedd is-adran (7), os na chydymffurfir ag is-adran (6) yn achos unrhyw gwch pysgota, bydd y meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan yr is-adran honno.