xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
Wedi'u gwneud
20 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
1 Awst 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Ym mharagraff 83 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (sydd, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, yn eithrio dyfroedd penodol sy'n ffurfio rhan o Afon Teifi o'r diffiniad o “sea” a “seashore”), yn lle “above the ferry north of St Dogmells” rhodder y geiriau “above Priory Bridge at Cardigan”.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Carwyn Jones
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
20 Gorffennaf 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (“y Ddeddf”) yn pennu dyfroedd nad ydynt, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf (diogelu'r arfordir), wedi'u cynnwys yn yr ymadroddion “sea” a “seashore”. Mae'r Rheoliadau hyn yn amrywio Atodlen 4 i'r Ddeddf er mwyn ymestyn y rhan honno o Afon Teifi a gynhwysir yn yr ymadroddion hynny.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).