Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Ail-anfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon

6.—(1Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1) neu (2), wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn —

(a)ail-anfon y cnau pistasio Iranaidd y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)(petai'r ail-anfon hwnnw yn ei farn ef yn creu peryglon difrifol i iechyd pobl), distrywio'r cnau pistasio Iranaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.

(2Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan —

(a)bod hawl apelio i lys ynadon; ac

(b)y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.

(3Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.

(4Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gŵ yn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

(5Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei wneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) fydd yn gymwys i'r achos.

(6Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

(7Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

(8Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill