- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Erthygl 11(3)
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2 isod, ni chaiff neb symud na chludo'r un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth diogelu.
2. Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1 yn gymwys—
(a)os yw'r symud yn cael ei wneud yn unol â pharagraffau 6 a 7;
(b)i gludo moch a gafodd eu llwytho ar gerbyd neu drên y tu allan i'r parth diogelu ac yn cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth hwnnw;
(c)i symud na chludo moch o'r tu allan i'r parth diogelu gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth diogelu, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
3. Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd allan o'r parth diogelu os yw'r cerbyd wedi cael ei ddefnyddio i gludo moch o fewn y parth, os nad—
(a)yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd; a
(b)yw'r symud wedi ei drwyddedu gan arolygydd; ac
(c)yw wedi cael ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho neu ei ddadlwytho.
4. Rhaid i feddiannydd daliad o fewn y parth diogelu sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael os nad awdurdodwyd y symud drwy drwydded a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
5. Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth diogelu.
6. Ni chaiff neb symud yr un mochyn yn y parth diogelu o'r daliad lle y cedwir ef am o leiaf 30 diwrnod ar ôl y cwblheir gwaith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn heb drwydded i wneud hynny a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
7. Os yw daliad—
(a)wedi bod mewn parth diogelu am hwy na 30 diwrnod oherwydd y bu achosion ychwanegol o'r clefyd yn y parth; a
(b)bod hyn wedi peri problemau ynglŷn â lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,
ceir symud mochyn oddi ar y daliad ar yr amod bod unrhyw symud o'r fath yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
8. Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth diogelu roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar ei ddaliad.
9. Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y clefyd (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto.
10. Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth diogelu yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod personau yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol eu hesgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.
11. Yn ddarostyngedig i baragraff 12, ni chaiff neb symud na chludo yr un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth goruchwylio os nad yw wedi cael trwydded i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
12. Ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff 11 yn gymwys—
(a)i gludo moch a lwythwyd i mewn i gerbyd neu drên y tu allan i'r parth goruchwylio ac sy'n cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth; na
(b)i symud neu gludo moch o'r tu allan i'r parth goruchwylio gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth goruchwylio, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
13. Ni chaiff neb symud yr un cerbyd a ddefnyddir i gludo da byw o'r parth goruchwylio os yw wedi ei ddefnyddio i gludo moch, os nad yw yn gyntaf wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio neu os na chafodd ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho na'i ddadlwytho.
14. Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael o fewn y saith niwrnod ers sefydlu'r parth hwnnw os nad oes ganddo awdurdod i wneud hynny drwy drwydded gan arolygydd.
15. Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth goruchwylio.
16. Ni chaiff neb symud yr un mochyn o ddaliad sydd yn y parth goruchwylio am o leiaf 21 diwrnod ar ôl i waith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig gael ei gwblhau. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn os nad oes ganddo drwydded i hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd.
17. Os yw daliad—
(i)wedi bod o fewn parth goruchwylio am fwy na 30 diwrnod oherwydd bod achosion ychwanegol o'r clefyd; a
(ii)bod hynny yn peri problemau o ran lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,
ceir symud moch o'r daliad hwnnw ar yr amod bod y symud wedi ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
18. Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y feirws (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu berson arall a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
19. Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth goruchwylio yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod personau yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol eu hesgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.
20. Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar y daliad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys