Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Hydref 2003.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) ac “awdurdodiad” (“authorisation”) yw cymeradwyaeth neu awdurdodiad (“authorisation”) a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae dofednod (“poultry”) yn cynnwys pob rhywogaeth gan gynnwys adar gwyllt;

ystyr “Rheoliad y Gymuned” (“the Community Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 3 Hydref 2002 yn gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(1) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gydag —

(a)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(2);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r gwaharddiad ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol(3);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(4));

(ch)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â defnyddio olew coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid(5);

(d)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r safonau prosesu ar gyfer gwaed mamaliaid(6));

(dd)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3(7);

(e)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn hylosgi neu'n cydhylosgi deunydd risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys(8).

(2Mae i'r ymadroddion a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn, a deunydd Categori 1, deunydd Categori 2 a deunydd Categori 3 yw'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid a nodir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno.

Cymeradwyaethau etc.

3.  Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, cyfarwyddiadau neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i —

(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)diogelu iechyd y cyhoedd a iechyd anifeiliaid.

(1)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(3)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(4)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(5)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(6)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.

(7)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(8)

OJ Rhif L117 13.5.2003, t.44.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill