- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
31. Caiff unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan y Rheoliadau hyn fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid iddo gael ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.
32. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
33. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn euog o dramgwydd.
34.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i weithredydd unrhyw safle sy'n gwaredu neu'n defnyddio unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio gwrtaith neu ddeunydd nad yw wedi'i gynnwys yn Rheoliad y Gymuned o dan Erthygl 1(2) o'r Rheoliad hwnnw), neu gynnyrch wedi'i brosesu ar y safle wneud cofnod wrth waredu neu ddefnyddio o bob gwarediad neu ddefnydd yn dangos y dyddiad pan waredwyd neu pan ddefnyddiwyd y sgil-gynnyrch anifeiliaid a maint a disgrifiad o'r deunydd a waredwyd neu a ddefnyddiwyd, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i waredu ar y safle drwy fwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion wedi'u prosesu i ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas.
35.—(1) Rhaid i weithredydd unrhyw safle bio-nwy neu safle compostio gofnodi —
(a)y dyddiad y danfonwyd y gwastraff arlwyo i'r safle;
(b)maint y gwastraff arlwyo a disgrifiad ohono gan gynnwys datganiad ynghylch a gymerwyd camau yn y tarddle i sicrhau bod y gwastraff yn wastraff heb gig ; ac
(c)enw'r cludydd;
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
36. Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi —
(a)y dyddiadau pan gafodd y deunydd ei drin;
(b)disgrifiad o'r deunydd a driniwyd;
(c)maint y deunydd a driniwyd;
(ch)canlyniad pob gwiriad a gyflawnwyd yn y pwyntiau critigol a nodir o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 1; a
(d)digon o wybodaeth i ddangos bod y deunydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau gofynnol;
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
37. Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi —
(a)enw a chyfeiriad y safle lle cymerwyd y sampl;
(b)y dyddiad pan gymerwyd y sampl;
(c)disgrifiad o'r sampl a dull ei adnabod;
(ch)y dyddiad pan dderbyniwyd y sampl yn y labordy;
(d)y dyddiad pan brofwyd y sampl yn y labordy; ac
(dd)canlyniad y prawf;
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
38.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd safle y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod yn cael eu cadw arno gofnodi —
(a)y dyddiad y daethpwyd â'r compost neu'r gweddill traul i'r safle hwnnw;
(b)maint a disgrifiad o'r compost neu'r gweddill traul;
(c)y tir y dodwyd y compost neu'r gweddill traul arno;
(ch)dyddiad ei ddodi; a
(d)y dyddiad pan roddwyd y tir dan gnwd gyntaf neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio ar unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys