xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

rheoliad 50

ATODLEN 3Mesurau Trosiannol

RHAN IGWAHARDD AILGYLCHU MEWNRYWOGAETHOL AR GYFER PYSGOD(1)

1.  Yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol, ni fydd gwahardd bwydo pysgod â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu rannau o gyrff pysgod o'r un rhywogaeth yn Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned yn gymwys.

RHAN IICASGLU, CLUDO A GWAREDU CYN-FWYDYDD(2)

1.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer rhoi cymeradwyaethau o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd.

(2Caniateir i gyfarwyddiadau, at ddibenion Erthygl 3(3) o'r Rheoliad hwnnw, gan yr awdurdod cymwys gael eu rhoi gan arolygydd.

2.  At ddibenion Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003, fel rhan-ddirymiad o Erthygl 6(2)(f) ac Erthygl 7 o Reoliad y Gymuned, caniateir i gyn-fwydydd nad ydynt wedi'u cymysgu ag unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill (ac eithrio gwastraff arlwyo Categori 3) gael eu casglu, eu cludo a'u gwaredu neu eu trin yn yr un modd â gwastraff arlwyo.

3.  Pan fydd cyn-fwydydd yn cael eu cymysgu â deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y deunydd neu'n ei reoli sicrhau ei fod yn cael ei waredu yn unol ag Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003; a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

4.  Pan fydd cyn-fwydydd yn cael eu hanfon i gael eu gwaredu mewn safle tirlenwi a gymeradwywyd, rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y deunydd neu'n ei reoli gydymffurfio ag Erthygl 1(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

5.  Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 yn euog o dramgwydd.

6.  Yn y Rhan hon nid yw “cyn-fwydydd” yn cynnwys gwastraff o gynhyrchu cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu i gael eu coginio cyn cael eu bwyta.

RHAN IIIOLEW COGINIO DEFNYDDIEDIG MEWN BWYD ANIFEILIAID(3)

Cwmpas

1.  Er gwaethaf y gwaharddiad ar fwydo anifeiliaid a ffermir â gwastraff arlwyo neu ddeunyddiau bwyd sy'n cynnwys gwastraff arlwyo neu'n deillio ohono, caniateir defnyddio olew coginio defnyddiedig ar gyfer cynhyrchu bwyd anifeiliaid os yw wedi'i gasglu, wedi'i drin ac wedi'i flendio yn unol â'r Rhan hon.

2.  Mae'r Rhan hon wedi'i chyfyngu i olew coginio defnyddiedig —

(a)sy'n deillio o fwytai, cyfleusterau arlwyo, a cheginau, gan gynnwys ceginau canolog a cheginau aelwydydd, yn unig; a

(b)sydd wedi'i fwriadu ar gyfer cynhyrchu bwyd anifeiliaid.

Cymeradwyaethau

3.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo —

(a)casglwyr olew coginio defnyddiedig os yw wedi'i fodloni y bydd y casglydd yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon; a

(b)gweithredwyr safleoedd lle mae olew coginio defnyddiedig yn cael ei drin neu ei gymysgu ag olewau eraill os yw wedi'i fodloni bod y safleoedd a'r gweithredu yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2Dim ond os oedd y casglydd neu'r gweithredydd yn casglu, trin neu flendio olewau coginio defnyddiedig ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.

4.  Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu —

(a)enw'r gweithredydd a chyfeiriad y safle a gymeradwywyd;

(b)yn achos safle trin, y rhannau o'r safle lle caniateir i olew coginio defnyddiedig gael ei dderbyn a'i drin; ac

(c)y dyddiad dod i ben, y mae rhaid iddo beidio â bod yn hwyrach na 31 Hydref 2004.

5.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odani yn cael eu bodloni mwyach.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

Ymrwymiadau cyffredinol

6.—(1Rhaid i olew coginio defnyddiedig gael ei gasglu, ei gludo, ei storio, ei drafod, ei drin, a'i ddefnyddio yn unol â'r Rhan hon.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid gwaredu unrhyw olew coginio defnyddiedig nad yw'n cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon yn unol â chyfarwyddyd arolygydd drwy hysbysiad.

7.  Rhaid i olew coginio defnyddiedig —

(a)cael ei gasglu gan gasglydd a gymeradwywyd;

(b)cael ei drin gan weithredydd a gymeradwywyd ar safle trin a gymeradwywyd; ac

(c)cael ei gymsygu ag olewau eraill gan weithredydd a gymeradwywyd ar safle blendio a gymeradwywyd.

Casglu a chludo olew coginio defnyddiedig

8.—(1Rhaid casglu a chludo olew coginio defnyddiedig mewn cynwysyddion â chaeadau neu mewn cerbydau sy'n ddiogel rhag gollwng a rhaid dynodi'r olew hwnnw yn y fath fodd ag i sicrhau bod modd olrhain y cynnwys, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gymysgu, i bob safle tarddiad.

(2Rhaid i gasglwyr gymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau bod yr olew coginio defnyddiedig yn rhydd rhag halogiad â sylweddau niweidiol.

(3Rhaid i gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio, a phob eitem o ran cyfarpar neu offer y gellir ei hailddefnyddio ac sy'n dod i gysylltiad ag olew coginio defnyddiedig, gael eu glanhau, eu golchi a'u diheintio ar ôl pob defnydd arnynt.

(4Rhaid i gerbydau neu gynwysyddion sy'n cario unrhyw ddeunydd a allai halogi'r olew coginio defnyddiedig gael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr cyn iddynt gael eu defnyddio i gario olew coginio defnyddiedig.

Safleoedd a gymeradwywyd a rhedeg safleoedd blendio

9.  Rhaid i weithredydd safle a gymeradwywyd sicrhau bod y safle yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rhan hon a'i fod yn cael ei redeg yn unol â hwy.

10.—(1Cyn ei gymysgu ag olew arall, rhaid i weithredydd safle blendio sicrhau bod pob swp o olew coginio defnyddiedig yn cael ei brofi i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau ym mharagraff 16 o'r Rhan hon. Rhaid i swp beidio â bod yn fwy na 30 tunnell.

(2Rhaid i gasglwyr a gweithredwyr safleoedd a gymeradwywyd sicrhau na fydd olew coginio defnyddiedig nad yw'n cydymfurfio â'r safonau ym mharagraff 16 o'r Rhan hon yn cael ei ddefnyddio.

Safleoedd a gymeradwywyd

11.—(1Rhaid i safleoedd a gymeradwywyd fod wedi'u hadeiladu yn y fath fodd ag i sicrhau eu bod yn hawdd i'w glanhau a'u diheintio.

(2Rhaid i bersonau ac anifeiliaid heb awdurdod beidio â chael mynd i'r safle.

(3Rhaid bod gan y safle gyfleusterau digonol ar gyfer glanhau a diheintio'r cynwysyddion neu'r llestri y mae'r olew coginio defnyddiedig yn cael ei dderbyn ynddynt ac, os yw'n briodol, y cerbydau y mae'n cael ei gludo ynddynt.

(4Rhaid bod gan y safle doiledau a chyfleusterau ymolchi digonol i'r staff.

(5Rhaid bod gan y safle le dan orchudd, sydd wedi'i farcio'n glir, i dderbyn olew coginio defnyddiedig.

(6Os yw'n briodol, rhaid bod gan y safle fan storio ar wahân ar gyfer unrhyw olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.

(7Rhaid selio tanciau ag awyrellau sydd wedi'u lleoli a'u sgrinio mewn ffordd sy'n atal halogion neu blâu rhag mynd i mewn iddynt.

(8Rhaid selio pibellau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Hunanwiriadau'r gweithredydd

12.—(1Rhaid i weithredwyr safleoedd a gymeradwywyd gymryd pob mesur sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2Rhaid iddynt sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn sydd wedi'i datblygu yn unol ag egwyddorion y system dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP).

(3Yn benodol rhaid iddynt —

(a)nodi a rheoli'r pwyntiau rheoli critigol ar y safle;

(b)sefydlu a gweithredu dulliau ar gyfer monitro a gwirio pwyntiau rheoli critigol o'r fath a chadw cofnodion o'r gwiriadau hynny am ddwy flynedd o leiaf; ac

(c)sicrhau bod modd olrhain pob swp sy'n cael ei dderbyn a'i anfon.

13.—(1Rhaid i weithredydd safle blendio a gymeradwywyd gyflawni gwiriadau a chymryd samplau at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r safonau ym mharagraff 16.

(2Os bydd canlyniadau gwiriad neu brawf yn dangos nad yw'r olew coginio defnyddiedig yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd —

(a)darganfod achosion y methiannau cydymffurfio;

(b)sicrhau na chaiff unrhyw olew ei anfon i'w ddefnyddio mewn porthiant;

(c)cychwyn gweithdrefnau dadhalogi a glanhau priodol; ac

(ch)pan fydd olew coginio defnyddiedig eisoes wedi'i anfon i'w ddefnyddio mewn porthiant, neu wedi'i ymgorffori mewn porthiant, cymryd yr holl fesurau angenrheidiol i sicrhau na fydd y porthiant yn cynnwys yr olew yn cael ei fwydo i dda byw.

14.—(1Rhaid i'r gweithredydd gofnodi canlyniadau'r gwiriadau a'r profion.

(2Rhaid i'r gweithredydd gadw sampl o bob llwyth o olew coginio defnyddiedig a anfonwyd o'r safle am o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad ei anfon.

Y gofynion o ran hylendid mewn safleoedd a gymeradwywyd

15.—(1Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri ac, os yw'n briodol, cerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo olew coginio defnyddiedig mewn man ddynodedig.

(2Rhaid cymryd mesurau atal yn erbyn adar, cnofilod, trychfilod neu fermin arall yn systemataidd.

(3Rhaid peidio â storio olew coginio defnyddiedig y bwriedir ei ddefnyddio yn yr un man ag olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd neu gynhyrchion anifeiliaid a allai greu risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd pobl.

(4Rhaid sefydlu a dogfennu gweithdrefnau glanhau ar gyfer pob rhan o'r safle.

(5Rhaid i waith rheoli hylendid gynnwys archwilio'r amgylchedd a'r cyfarpar.

(6Rhaid cofnodi amserlenni archwilio a chanlyniadau'r archwilio.

(7Rhaid cadw gosodiadau a chyfarpar mewn cyflwr da.

(8Rhaid calibradu cyfarpar mesur o leiaf unwaith y flwyddyn.

(9Rhaid glanhau tanciau a phibellau yn fewnol o leiaf unwaith y flwyddyn neu pan fydd dŵ r a halogion ffisegol wedi cronni.

(10Rhaid trafod a storio olew coginio defnyddiedig sydd wedi'i drin yn y fath fodd ag i atal halogiad.

Manyleb ar gyfer olew coginio defnyddiedig i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid

16.—(1Rhaid i olew coginio defnyddiedig fodloni'r safonau gofynnol canlynol cyn iddo gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.

(2Halogiad ffisegol:

(a)lleithder ac amhureddau: <3%

(b)amhureddau: <0.15%.

(3Presenoldeb olew mwynol: yn absennol.

(4Presenoldeb asidau brasterog ocsidiedig: >88% o'i gynnwys yn asidau brasterog echludadwy.

(5Bod presenoldeb gweddillion plaleiddiaid yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb 2002/32/EC(4) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.

(6Presenoldeb biffenylau polyclorinedig (PCB)s: <100ppb ar gyfer y saith prif gytras(5).

(7Presenoldeb Salmonela: yn absennol.

(8Presenoldeb braster anifeiliaid:

(a)Asid pentadecanöig (C15): <0.2%

(b)Cis.9 – asid hecsadecanöig (C16:1): <2%

(c)Asid heptadeconig (C17): <0.4%

(ch)Cis.9 – asid heptadecanöig (C17:1) <0.3%

(d)Asidau brasterog y mae hyd eu cadwyn yn 20 atom carbon neu fwy (C20+): <5%

Dogfennau masnachol

17.—(1Caiff dogfennau masnachol fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.

(2Rhaid bod dogfen fasnachol ysgrifenedig neu allbrint o ddogfen electronig yn mynd gyda llwyth o olew coginio defnyddiedig tra bydd yn cael ei gludo.

(3Rhaid i'r cynhyrchydd, y derbynnydd a'r cludydd gadw copi bob un o ddogfen fasnachol ysgrifenedig neu, yn achos gwybodaeth electronig, cofnod o'r wybodaeth honno.

(4Rhaid i ddogfennau masnachol gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)cyfeiriad y safle y cymerwyd yr olew coginio defnyddiedig ohono;

(b)y dyddiad y cymerwyd yr olew coginio defnyddiedig o'r safle;

(c)ansawdd yr olew coginio defnyddiedig a disgrifiad ohono;

(ch)maint yr olew coginio defnyddiedig;

(d)enw a chyfeiriad y cludydd;

(dd)cyrchnod yr olew coginio defnyddiedig; ac

(e)cyfeirif unigryw sy'n cysylltu'r casglydd a'r cynhwysydd neu'r cerbyd â'r safle y cymerwyd yr olew coginio defnyddiedig ohono.

Cofnodion

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon, yn cludo neu'n derbyn olew coginio defnyddiedig gadw cofnod sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ddogfen fasnachol.

(2Ar gyfer olew coginio defnyddiedig sy'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, rhaid bod modd olrhain yr olew yn llawn hefyd drwy'r cofnodion o'r safle tarddiad nes iddo gael ei ymgorffori yn y bwyd anifeiliaid.

(3Ar gyfer olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, rhaid i'r person sy'n anfon yr olew i'w waredu gadw cofnod hefyd sy'n dangos dull a man ei waredu a'r dyddiad yr anfonwyd yr olew i gael ei waredu.

Rhestr o safleoedd

19.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw rhestr o enwau a chyfeiriadau'r personau canlynol a gymeradwywyd:

(a)casglwyr olew coginio defnyddiedig;

(b)gweithredwyr safleoedd trin; ac

(c)gweithredwyr safleoedd blendio.

(2Rhaid pennu Rhif adnabod swyddogol ar gyfer pob casglydd a gweithredydd safle a gymeradwywyd.

(3Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod y rhestr hon ar gael i'r cyhoedd.

RHAN IVGWAED MAMALIAID(6)

Cyffredinol

1.  Fel rhan-ddirymiad o Atodiad VII, Pennod 11, paragraff 1 i Reoliad y Gymuned, caniateir i waed mamaliaid gael ei brosesu yn unol â'r Rhan hon.

2.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo defnyddio dulliau prosesu 2 i 5 neu 7 o Atodiad V i Reoliad y Gymuned ar gyfer prosesu gwaed mamalaidd.

3.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt yn cael eu bodloni.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

(3Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd nad yw wedi'i brosesu yn unol â'r Rhan hon neu Reoliad y Gymuned yn unol â chyfarwyddyd arolygydd.

4.  Dim ond os oedd y gweithredydd yn prosesu ar y safle hwn, gan ddefnyddio'r cyfarpar hwnnw a defnyddio'r dulliau hynny ar 1 Tachwedd 2002.

5.  Rhaid cydymffurfio â phob darpariaeth berthnasol arall yn Rheoliad y Gymuned.

RHAN VGWEITHFEYDD OLEOCEMEGOL SY'N DEFNYDDIO BRASTERAU WEDI'U RENDRO O DDEUNYDDIAU CATEGORI 2 A CHATEGORI 3(7)

Rhwymedigaethau cyffredinol

1.  Fel rhan-ddirymiad o erthygl 14 o Reoliad y Gymuned, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo defnyddio gweithfeydd oleocemegol i brosesu brasterau wedi'u rendro sy'n deillio o ddeunydd Categori 2 a deunydd Categori 3 ill dau ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r amodau canlynol.

2.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt yn cael eu bodloni.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

(3Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd nad yw wedi'i brosesu yn unol â'r Rhan hon neu Reoliad y Gymuned yn unol â chyfarwyddyd arolygydd.

3.  Dim ond i safleoedd a chyfleusterau a oedd yn gweithredu felly ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.

Gofynion penodol

4.—(1Dim ond brasterau wedi'u rendro sy'n deillio o ddeunyddiau Categori 2 a Chategori 3 y caniateir eu defnyddio.

(2Rhaid i frasterau wedi'u rendro sy'n deillio o ddeunyddiau Categori 2 gael eu prosesu yn unol â'r safonau ym Mhennod III o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

(3Rhaid defnyddio prosesau ychwanegol megis distyllu, hidlo a phrosesu ag amsugnyddion i wella ymhellach ddiogelwch y deilliadau gwêr.

RHAN VIGWEITHFEYDD HYLOSGI NEU GYDHYLOSGI ISEL EU CYNHWYSEDD NAD YDYNT YN HYLOSGI NAC YN CYDHYLOSGI DEUNYDDIAU RISG PENODEDIG NEU GARCASAU SY'N EU CYNNWYS(8)

Rhwymedigaethau cyffredinol

1.  Fel rhan-ddirymiad o Erthygl 12(3) o Reoliad y Gymuned, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo defnyddio gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi yn Atodiad IV i Reoliad y Gymuned os ydynt yn cael eu rhedeg yn unol â'r Rhan hon.

2.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt yn cael eu bodloni.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned, gan gynnwys gofynion Atodiad IV, wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

(3Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd nad yw wedi'i hylosgi yn unol â'r Rhan hon neu Reoliad y Gymuned yn unol â chyfarwyddyd arolygydd.

3.  Dim ond ar gyfer llosgyddion a oedd yn weithredol ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.

Gofynion penodol

4.  Rhaid i'r gweithredydd gymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau —

(a)bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu trafod a'u storio'n ddiogel ac yn cael eu hylosgi neu eu cydhylosgi heb oedi gormodol yn y fath fodd ag i'w rhydwytho i ludw sych;

(b)bod y lludw sych yn cael ei waredu'n briodol a bod cofnodion yn cael eu cadw o faint o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gafodd eu hylosgi a disgrifiad ohonynt a dyddiad eu hylosgi;

(c)nad yw'r lludw sych yn cael ei symud o'r siambr ymlosgi oni bai bod yr ymlosgi wedi'i gwblhau; ac

(ch)bod gwaith cludo a storio'r lludw yn y cyfamser yn digwydd mewn cynhwysydd sydd wedi'i gau i atal y lludw rhag cael ei wasgaru yn yr amgylchedd a'i fod yn cael ei waredu'n ddiogel;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

5.  Yn achos toriad i lawr neu gamweithio, rhaid i'r gweithredydd leihau'r gweithrediadau neu eu cau i lawr cyn gynted ag y bo'n ymarferol nes bod modd ailgychwyn a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(1)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol. OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(2)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(3)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â defnyddio mewn bwyd olewau coginio defnyddiedig, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(4)

OJ Rhif L 140, 30.05.2002, t.10.

(5)

Biffenylau polyclorinedig ICES7.

(6)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r safonau prosesu ar gyfer gwaed mamaliaid, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.

(7)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(8)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn hylosgi nac yn cydhylosgi deunyddiau risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.44.