Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Darpariaethau dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw unrhyw benderfyniad a wnaed ar ôl 31 Awst 1994 gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol (sy'n cynnwys penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad o ddisgybl a wneir am gyfnod penodedig yn barhaol), yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 neu baragraff 7 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 1993(2);
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
mewn perthynas â disgybl o dan 18, ei riant;
mewn perthynas â disgybl sydd wedi cyrraedd yr oedran hwnnw, y disgybl ei hun.
Apelio yn erbyn gwaharddiad parhaol o uned cyfeirio disgyblion
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 52(7) o Ddeddf 2002 y person all apelio i banel apelau yn erbyn penderfynad i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion.
(2) Y person a ragnodir yw'r person perthnasol mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl sy'n destun penderfyniad perthnasol.
Camau i'w cymryd gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, rhaid i'r athro neu athrawes yng ngofal ddilyn y camau canlynol ar unwaith—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol yn cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol—
(i)y rhesymau am y penderfyniad,
(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,
(iv)bod raid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a
(v)y diwrnod olaf y gellir gwneud yr apêl.
(b)hysbysu'r awdurdod addysg lleol bod y digybl yn cael ei wahardd yn barhaol a'r rhesymau dros hynny.
(2) Nid yw'r rheoliad hwn i fod yn gymwys i unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn i alluogi person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad perthnasol.
(2) Ni ellir gwneud unrhyw apêl mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol y mae rheoliad 4(2) yn gymwys iddo oni roddir hysbysiad ysgrifenedig yn nodi'r seiliau am yr apêl gan y person perthnasol i'r awdurodd addysg lleol cyn pen 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym.
Cymhwyso deddfwriaeth bresennol
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Atodlen 18 i Ddeddf 1998 i fod yn gymwys gyda'r addasiadau a ragnodwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 18 i Ddeddf 1998 fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn i fod yn gymwys.
Penderfyniad panel apelau yn benderfyniad rhwymol
7. Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5 yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol a'r awdurdod addysg lleol.
Cyfarwyddyd i adsefydlu disgybl
8. Pan o dan apêl yn unol â'r Rheoliadau hyn bod panel apelau yn penderfynu na ddylai'r disgybl dan sylw fod wedi cael ei wahardd yn barhaol, rhaid i'r panel apelau naill ai—
(a)gyfarwyddo ei fod yn cael ei adsefydlu (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennnir yn y cyfarwyddyd); neu
(b)mewn achosion pan na fyddai'n ymarferol rhoi cyfarwyddyd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol ei adsefydlu, benderfynu y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.
Parchu canllawiau
9. Rhaid i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo gan neu o dan y Rheoliadau hyn a Deddf 1998 (fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn) barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Chwefror 2003