Cymhwyso deddfwriaeth bresennol
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Atodlen 18 i Ddeddf 1998 i fod yn gymwys gyda'r addasiadau a ragnodwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 18 i Ddeddf 1998 fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn i fod yn gymwys.