xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Mae'r fforwm â chworwm os yw o leiaf deugain y cant o'i holl aelodau yn bresennol mewn cyfarfod.
(2) Y fforwm sydd i ethol ei gadeirydd cyntaf a'i olynwyr.
(3) Bydd y cadeirydd yn dal y swydd am flwyddyn (ond ceir ei ailbenodi).
(4) Caiff Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant(1) enwebu arsylwr a bydd yr hawl ganddo i fynychu holl gyfarfodydd y fforwm.
(5) Caiff yr awdurdod perthnasol os yw o'r farn y byddai'n briodol i gorff penodol gael yr hawl i fynychu cyfarfodydd y fforwm fel arsylwr, wahodd y corff hwnnw i enwebu person i fynychu cyfarfodydd y fforwm i'r diben hwnnw.
Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 30 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.