xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 10 gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol a chyn pen 24 awr wedi i'r prawf y mae paragraff (a) o'r rheoliad hwnnw yn cyfeirio ato gael ei gwblhau.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 13 gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol a chyn pen 24 awr ar ôl i'r tramgwydd segura llonydd gael ei gyflawni.
16. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi'r manylion hynny ynghylch yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu'r dramgwydd cosb benodedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef ag sy'n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol ynghylch y dramgwydd a rhaid iddo ddatgan —
(a)enw a chyfeiriad y person y mae'r hysbysiad yn cael ei ddyroddi iddo;
(b)Rhif cofrestredig y cerbyd dan sylw;
(c)dyddiad y dramgwydd;
(ch)swm y gosb benodedig sydd i'w dalu;
(d)y person y mae'r gosb benodedig i gael ei thalu iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu'r gosb ac ar gyfer anfon unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â'r hysbysaid cosb benodedig;
(dd)y person, y cyfeiriad, a'r cyfnod mewn perthynas ag anfon;
(i)cais am wrandawiad;
(ii)cais i ostwng neu hepgor y gosb benodedig;
(e)y dull neu'r dulliau ar gyfer talu'r gosb benodedig;
(f)y cyfnod ar gyfer talu'r gosb benodedig, na fydd yn llai na 28 diwrnod gan ddechrau â diwrnod dyroddi'r hysbysiad; a
(ff)canlyniadau peidio â thalu'r gosb benodedig cyn i'r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben.
17.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff hysbysiad cosb benodedig ei ddyroddi o dan reoliad 10 neu 13.
(2) Mae cyfeiriadau yn narpariaethau canlynol y rheoliad hwn at y derbynnydd yn gyfeiriadau at y person y mae'r hysbysiad cosb benodedig i gael ei ddyroddi iddo.
(3) Ni ellir cychwyn achosion yn erbyn y derbynnydd am y dramgwydd y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud ag ef cyn i'r cyfnod ar gyfer talu'r ddirwy ddod i ben oni bai fod y derbynnydd wedi rhoi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad.
(4) Ni ellir collfarnu person am dramgwydd y dyroddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas ag ef os caiff y gosb bendodedig ei thalu cyn y daw'r cyfnod ar gyfer ei thalu i ben.
(5) Pan —
(a)nad yw'r derbynnydd wedi rhoi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad; a
(b)nad yw'r gosb benodedig wedi cael ei thalu cyn diwedd y cyfnod ar gyfer ei thalu caiff y gosb benodedig ei chynyddu fel y crybwyllwyd ym mharagraff (6).
(6) Caiff cosb benodedig —
(a)sydd wedi'i gostwng o dan reoliad 19(4) i £30, ei chynyddu i £60;
(b)o £60 mewn unrhyw achos arall o dramgwydd allyriad, ei chynyddu i £90;
(c)o £20, yn achos tramgwydd segura llonydd, ei chynyddu i £40.
(7) Pan fo hysbysiad o dan reoliad 19(6) yn cynnwys datganiad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 19(7), dylid trin y cyfeiriadau ym mharagraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwn at y cyfnod ar gyfer talu'r gosb benodedig fel cyfeiriadau at y cyfnod sy'n dod i ben ar y dyddiad a nodwyd yn unol â rheoliad 19(7)(b).
18.—(1) Gall person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo, o fewn y cyfnod a chan ddilyn y dull a nodir —
(a)yn yr hysbysiad hwnnw, neu
(b)pan fo hysbysiad wedi cael ei roi o dan reoliad 19(6), yn yr hysbysiad hwnnw,
roi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad mewn perthynas â'r dramgwydd y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud ag ef.
(2) Pan roddir hysbysiad sy'n gwneud cais am wrandawiad —
(a)nid yw'r gosb benodedig yn daladwy; a
(b)gellir trin yr hysbysiad cosb benodedig fel hysbysiaeth at ddibenion erlyn ar gyfer y dramgwydd y cafodd ei ddyroddi mewn perthynas ag ef.
19.—(1) Gall person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo mewn perthynas â thramgwydd allyriad, o fewn y cyfnod a chan ddilyn y dull a nodwyd yn yr hysbysiad hwnnw, wneud cais i'r awdurdod priodol i'r gosb benodedig gael ei gostwng neu ei rhoi heibio.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) fod yn gais ysgrifenedig a rhaid iddo —
(a)gynnwys cyfryw wybodaeth, a
(b)rhaid anfon tystiolaeth ddogfennol gydag ef,
sydd ym marn y ceisydd yn debygol o fodloni'r awdurdod ynghylch un neu fwy o'r materion a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw —
(a)bod y nam a barodd i'r cerbyd fethu'r prawf a gyflawnwyd yn unol â pharagraff (2) neu, yn ôl fel y digwydd, baragraff (3)(a) o reoliad 9 (“methu prawf rheoliad 9”), wedi cael ei gywiro o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y methiant hwnnw;
(b)bod, o fewn y cyfnod o 6 mis a oedd yn rhagflaenu yn union y methiant prawf rheoliad 9 —
(i)y cerbyd wedi pasio archwiliad o dan adran 45 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988; neu
(ii)bod y cerbyd wedi methu archwiliad o'r fath, ond nad oedd yr un o'r seiliau y bu iddo fethu yn ymwneud â gofyniad rheoliad 61 neu 61A o Reoliadau 1986; neu
(iii)bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd cyn y methiant prawf rheoliad 9 i gynnal a chadw'r cerbyd mewn cyflwr sy'n ddigonol i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau 61 a 61A hynny.
(4) Os bydd yr awdurdod wedi'i fodloni mewn perthynas â mater a nodir yn unrhywun o baragraffau (a) i (c) o baragraff (3), gall ostwng y gosb benodedig i £30.
(5) Os yw'r awdurdod yn fodlon mewn perthynas â'r materion a nodir —
(a)yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwnnw; a
(b)yn naill ai is-baragraff (b) neu is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw,
gall rhoi heibio'r gosb benodedig yn ei chyfanrwydd.
(6) Cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol ar ôl penderfynu ar gais o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod, drwy hysbysiad, hysbysu'r ceisydd am ei benderfyniad.
(7) Heblaw mewn achos pan fo'r awdurdod wedi rhoi heibio'r gosb benodedig yn ei chyfanrwydd, rhaid i hysbysiad yr awdurdod o dan baragraff (6) gynnwys datganiad —
(a)o swm y gosb benodedig (p'un ai ar ffurf y swm wreiddiol neu ar ffurf y gostyngiad o dan baragraff (4));
(b)o'r dyddiad y mae'r gosb benodedig i'w thalu, sef p'un bynnag yw'r olaf o'r canlynol —
(i)y diwrnod olaf yn y cyfnod a bennwyd, yn unol â rheoliad 16(f), yn yr hysbysiad cosb benodedig, a
(ii)y diwrnod sy'n dod 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad o dan baragraff (6) yn cael ei ddyroddi; a
(iii)am y person y dylid anfon yr hysbysiad sy'n gwneud cais am wrandawiad ato, y cyfeiriad ar gyfer gwneud hynny a'r cyfnod ar gyfer gwneud hynny.
20.—(1) Gellir tynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl mewn unrhyw achos pan fo'r awdurdod priodol yn penderfynu —
(a)na ddylai fod wedi cael ei ddyroddi, neu
(b)na ddylai fod wedi cael ei ddyroddi i'r person a enwyd fel y person y cafodd ei ddyroddi iddo.
(2) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi cael ei dynnu yn ôl yn unol â pharagraff (1) —
(a)rhaid rhoi hysbysiad ei fod wedi cael ei dynnu'n ôl i'r person y cafodd yr hysbysiad ei ddyroddi iddo;
(b)rhaid i unrhyw swm a dalwyd trwy gyfrwng cosb benodedig yn unol â'r hysbysiad hwnnw gael ei ad-dalu i'r person a dalodd y swm; ac
(c)ni ellir parhau neu gychwyn unrhyw achos yn erbyn y person hwnnw am y dramgwydd y cafodd yr hysbysiad tynnu yn ôl ei ddyroddi mewn perthynas ag ef.