Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2003 (“y Ddeddf”) i rym. Daw'r rheini a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2003. Daw'r rheini a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004. Oni nodir fel arall yn Atodlen 1, daw'r darpariaethau hynny a bennir i rym ar y dyddiad perthnasol ac at bob diben.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1.

Mae adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â system newydd o gyllid cyfalaf a chyfrifon awdurdodau lleol yng Nghymru fel a ganlyn.

Yn benodol, mae adran 1 yn darparu ar gyfer pwerau benthyg awdurdod lleol gan gynnwys y pŵer i fenthyg at ddiben rheoli materion ariannol yn ddarbodus. Mae adran 2 i 8 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â benthyg. Mae adrannau 9 i 11 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â derbyniadau cyfalaf. Mae adran 12 yn galluogi awdurdodau lleol i fuddsoddi at ddiben sy'n berthnasol i'w swyddogaethau ac at ddiben rheoli eu materion ariannol yn ddarbodus. Mae adrannau 13 i 20 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwarant ar arian a fenthycir, yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”), canllawiau gan y Cynulliad, ystyr “capital expenditure”, cyllid allanol, cwmnïau awdurdodau lleol a chyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae adran 19 yn rhoi effaith weithredol i Atodlen 1 i'r Ddeddf (atodlen sy'n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf mewn cysylltiad â chynghorau cymuned ac ymddiriedolwyr siartr). Mae adrannau 21 i 22 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag arferion cyfrifydda a chyfrifon refeniw.

Mae adrannau 23 a 24 yn cynnwys diffiniadau a darpariaethau dehongli.

Mae adrannau 25 i 28 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweinyddu cyllid. Mae adrannau 25 i 27 yn ymdrin â chyfrifo cyllidebau, mae adran 26 yn ymdrin ag isafswm lefel cronfeydd wrth gefn ac mae adran 28 yn ymdrin â monitro cyllidebau.

Bydd y pŵer yn adran 36 yn galluogi'r Cynulliad i dalu grantiau i awdurdodau gwerth gorau, a hynny mewn perthynas â'r treuliau y maent wedi'u tynnu wrth wneud cais am gael eu dyfarnu'n deilwng o ddynodiad sy'n seiliedig ar ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau. Bydd hyn yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r dyletswyddau gwerth gorau yn adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Pan ddyfernir y dynodiad hwnnw i awdurdod gwerth gorau, sydd yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r dyletswyddau perthnasol, bydd y pŵer hefyd yn galluogi grantiau i gael eu talu'n wobr am y dynodiad hwnnw ac mewn perthynas â threuliau a dynnwyd neu sydd i'w tynnu gan yr awdurdod wrth ddosbarthu gwybodaeth am arferion gorau.

Bydd adran 37 yn galluogi'r Cynulliad i roi cymorth ariannol mewn argyfwng i Awdurdodau Tân Cyfunol (a gyfunwyd yn rhinwedd Deddf Gwasanaethau Tân 1947) yn eu henw eu hunain.

Mae adrannau 38 a 39 yn hwyluso trosglwyddo tai awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O dan adran 38, bydd y Cynulliad yn gallu gwneud taliadau i'r Comisiynwyr Benthyciad Gweithfeydd Cyhoeddus (“the Commissioners”) er mwyn gostwng neu ddileu'r ddyled o'r fath a fydd gan awdurdod leol yng Ngymru, i'r Comisiynwyr yng Nghymru fel y gwêl y Cynulliad yn dda. Gallai'r Comisiynwyr wrthod derbyn taliad y mae'r Cynulliad yn cynnig ei wneud iddynt. Bydd adran 39 yn galluogi'r Cynulliad i wneud taliadau i awdurdodau lleol i'w galluogi i dalu dyledion ac eithrio dyledion i'r Comisiynwyr.

Mae adran 40 yn cychwyn Atodlen 2 i'r Ddeddf sy'n gwneud darpariaeth i alluogi'r Cynulliad i wneud dau adroddiad cyllid llywodraeth leol am unrhyw flwyddyn ariannol, y naill yn ymwneud ag awdurdodau heddlu a'r llall yn ymwneud ag awdurdodau a chyrff eraill.

Mae adrannau 41 i 59 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag Ardaloedd Gwella Busnes (“AGBoedd”). Caiff awdurdodau bilio wneud trefniadau mewn perthynas ag ardaloedd o fewn eu hawdurdod a elwir yn AGBoedd. Mewn AGB, cyllidir gwasanaethau ychwanegol neu welliannau o fudd i'r gymuned leol drwy bobl sy'n talu ardrethi annomestig neu rai pobl benodol sy'n talu ardrethi annomestig yn yr AGB (adran 41). Er mwyn sefydlu AGB, rhaid yn gyntaf i fwyafrif o'r bobl a fyddai'n rhwym o dalu'r ardoll berthnasol bleidleisio o blaid (adran 49).

Mae adrannau 60, 61, 62(1) a (3) i (10), 66, 67(1) a (3) i (5), 70(1) i (3) a (7) i (9), a 71 yn diwygio darpariaethau ardrethu annomestig yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel a ganlyn.

Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol llunio rhestr o'r ardrethi arfaethedig chwe mis cyn iddynt ddod i rym. Mae adran 61 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth newydd i fusnesau bach. Mae adrannau 62(1) a (3) i (10) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifo'r lluosydd ardrethu annomestig. Mae adran 66 yn darparu ar gyfer hawl i ddefnyddio unrhyw dir at ddiben gweithredu mesurydd i fesur cyflenwad o nwy neu drydan neu wasanaeth arall o'r fath y gall y Cynulliad ei bennu'n hereditament (os person heblaw defnyddiwr y gwasanaeth sy'n berchen ar y mesurydd). Mae adrannau 67(1) a (3) i (5) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag esemptiadau ar gyfer adeiladau amaethyddol. Mae adran 70(1) i (3) a (7) i (9) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chadw ardrethi lleol yn yr ardal leol. Mae adran 71 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag addasiadau ar gyfer cymorth caledi.

Mae adran 75(2) i (5) yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 er mwyn gwneud darpariaeth mewn perthynas â disgowntiau yn y dreth gyngor yng Nghymru mewn cysylltiad ag ail gartrefi a chartrefi gwag.

Mae adran 89 yn ymdrin â thalu a chyfrifo cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai ac mae adran 90(1) a (3) yn ymdrin â symiau negyddol o gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.

Mae adran 100(3) yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol. Mae'r Atodlen honno yn diwygio rhai o'r darpariaethau sy'n rhoi pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan ddeddfau llywodraeth leol amrywiol neu yn llywodraethu eu harfer. Mae'n gwneud hynny at ddibenion eu harfer mewn perthynas ag awdurdodau yr effeithir arnynt ganddynt.

Mae adran 101 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn cysylltiad â materion trosglwyddo staff. Mae hyn yn berthnasol pan fydd awdurdod gwerth gorau yn gwneud contract â pherson ar gyfer darparu gwasanaethau ac mae adran 102 yn gwneud darpariaeth yn benodol mewn cysylltiad â phensiynau a materion trosglwyddo staff.

Mae adran 109(1) yn diwygio Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 ac mae'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag archwilio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a ffioedd ar gyfer hynny. Mae adran 109(2) yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer gorchmynion a rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 52 o'r Ddeddf honno gan y Cynulliad.

Mae adran 117 yn galluogi'r Cynulliad i ddiwygio deddfiadau sy'n berthnasol i awdurdod lleol os yw'n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni arferion cyfrifydda sy'n gyffredinol dderbyniol.

Mae adran 118 yn diwygio adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i dynnu treuliau at ddibenion penodol nad ydynt yn cael eu hawdurdodi fel arall) ynghyd â'r Atodlen gysylltiedig yn y Ddeddf honno.

Mae adran 119 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â'r defnydd o gosbau penodedig ar gyfer tramgwyddau ysbwriel a chŵ n yn baeddu.

Caiff effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 ei hegluro isod.

Mae adran 64 yn darparu cymorth ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig mewn cysylltiad ag ardrethi annomestig.

Mae adran 67(2) yn diwygio Atodlen 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel bod yr esemptio o ardrethu annomestig mewn cysylltiad â thir ac adeiladau amaethyddol yn cael ei estyn.

Mae adran 92(2) yn galluogi'r Cynulliad i ddiddymu drwy orchymyn adran 24(3) o Ddeddf Tai 1985 fel y'i diwygiwyd gan adran 92(1) o'r Ddeddf.

Mae adran 120 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio busnes tyllu rhannau o'r corff a lliwio'r croen at ddibenion cosmetig.

Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaethau trosiannol sy'n gysylltiedig â phan ddaw adran 120 i rym.

Mae Atodlenni 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau a dirymiadau yn y drefn honno.

Mae Atodlen 2 o'r Gorchymyn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill