Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Gwahardd pysgota perdys heb dreillrwyd wahanu neu grid didoli
3. Gwaherddir cychod pysgota Prydeinig rhag cario na defnyddio rhwyd, y mae mesur ei masgl rhwng 16 a 31 milimetr oni bai fod yr amodau canlynol wedi'u bodloni —
(a)bod rhwydwe, y mae ei masgl yn mesur o leiaf ddwywaith mesur pen y cwd a dim mwy na 70 milimetr, wedi ei rhoi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —
(i)na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r rhwydwe; a
(ii)bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r rhwydwe yn gallu ffoi drwyddo;
(b)bod grid anhyblyg, nad yw'r gofod rhwng ei fariau yn fwy nag 20 milimetr wedi ei roi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —
(i)na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r grid; a
(ii)bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r grid yn gallu ffoi drwyddo;
(c)na chadwyd unrhyw bysgod ar fwrdd y cwch; neu
(ch)os oes unrhyw bysgod wedi'u cadw ar fwrdd y cwch, bod llai na 60% yn ôl pwysau byw cyfanswm yr haldiad a gadwyd yn cynnwys perdys cyffredin (Crangon spp.), perdys Aesop (Pandalus montagui) neu gyfuniad o'r ddau.
Yn ôl i’r brig