xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3037 (Cy.285)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

28 Tachwedd 2003

Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3), sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, a dônt i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r ystyr sydd iddo yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch coco neu siocled a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn i'r Atodlen honno ac unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3 ac Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw; ac ystyr “cynnyrch siocled dynodedig” a “chynnyrch coco dynodedig” yw unrhyw gynnyrch o'r fath sydd yn gynnyrch siocled neu'n gynnyrch coco yn y drefn honno;

ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(4) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol(5) a lofnodwyd ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”)yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

at ddibenion ailwerthu,

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo, neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth ar werth neu ei ddatgelu ar gyfer ei werthu neu ei gael yn eich meddiant i'w werthu a dehonglir “gwerthiant ” (“sale”) yn unol â hynny;

ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”)yw Gwladwriaeth sy'n un o Bartïon Contractio Cytundeb AEE;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrosesu neu drin o unrhyw fath;

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(6);

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y caiff bwyd ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; a

nid yw “sylweddau bwytadwy eraill” (“other edible substances”) yn cynnwys brasterau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu lenwad unrhyw gynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 neu o eitem 10(a) o Atodlen 1;

(2Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Brasterau llysiau mewn cynhyrchion siocledLL+C

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.

(2Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Cwmpas y RheoliadauLL+C

4.  Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Disgrifiadau neilltuedigLL+C

5.  Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw —

(a)y bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;

(b)y disgrifiad hwnnw, neu'r peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw'n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sydd yn dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw; neu

(c)bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedigLL+C

6.—(1Heb ragfarnu Rhan II o Reoliadau 1996 yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho —

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(a) a (3) isod, ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 7, yn achos cynnyrch siocled dynodedig sydd, yn unol â rheoliad 3, yn cynnwys brasterau llysiau heblaw saim coco, ddatganiad amlwg a hawdd ei ddarllen sy'n dweud “contains vegetable fats in addition to cocoa butter”;

(c)lle y defnyddir y geiriau “milk chocolate” yn ddisgrifiad neilltuedig neu yn addasiad o'r disgrifiad neilltuedig o gynnyrch siocled dynodedig, dangoser ar y cynnyrch beth yw cynnwys solidau llaeth powdr ar ffurf “milk solids:…% minimum”, ar yr amod —

(i)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 4(a) o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr a ddangosir yn llai na 14 y cant; a

(ii)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 5 o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr yn llai nag 20 y cant;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf “cocoa solids…% minimum”;

(d)yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.

(2Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth —

(a)ceir rhoi, yn lle'r disgrifiad neilltuedig, “assorted chocolates” neu “assorted filled chocolates” neu enw tebyg; a

(b)caiff y rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar label bwyd fod yn un rhestr o gynhwysion ar gyfer yr holl gynhyrchion yn y pecyn amrywiaeth.

(3At y disgrifiadau neilltuedig “chocolate”, “milk chocolate” a “couverture chocolate” ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys —

(a)yn achos y disgrifiad neilltuedig “chocolate”, dim llai na chyfanswm o 43 y cant o solidau coco powdr, gan gynnwys dim llai na 26 y cant o saim coco;

(b)yn achos y disgrifiad neilltuedig “milk chocolate”, dim llai na chyfanswm o 30 y cant o solidau coco powdr a dim llai na 18 y cant o solidau llaeth powdr a gafwyd drwy ddadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl laeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu laeth sgim, neu hufen, neu a gafwyd o hufen, menyn neu fraster llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn cynnwys dim llai na 4.5 y cant o fraster llaeth;

(c)yn achos y disgrifiad neilltuedig “couverture chocolate”, dim llai nag 16 y cant o solidau coco powdr di-fraster.

(4Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Dull o farcio neu labeluLL+C

7.—(1Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol gan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn eu nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar ei label fel pe baent yn fanylion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar ei label.

(2Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label —

(a)yn yr un maes gwelediad â'r rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol eu nodi ar y cynnyrch neu ei label gan Reoliadau 1996;

(b)yn gyfan gwbl ar wahân i'r rhestr honno;

(c)mewn llythrennau trwm nad ydynt yn llai o faint na'r llythrennau a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhestr; ac

(ch)wedi'i lleoli yn agos at y disgrifiad neilltuedig, a allai ymddangos hefyd mewn man arall ar yr hyn a farciwyd neu ar y label.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Dulliau o gosbi a gorfodiLL+C

8.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforionLL+C

9.  Mewn unrhyw achosion yn ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir—

(a)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad a chanddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â chynhyrchion siocled a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990LL+C

10.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth redeg busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Diwygiadau a dirymiadauLL+C

11.—(1Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II) caiff is-baragraff (b) ei hepgor.

(2Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976(8) eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)

(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(9), yn Atodlen 1;

(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(10), yn Atodlen 1 Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3 Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;

(c)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(11)), yn Atodlen 1, Rhan I;

(ch)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymiadau) 1992(12), yn Atodlen 1 Rhan I;

(d)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(13)), yn Atodlen 9;

(dd)yn Rheoliadau 1996, yn rheoliad 49(4)(a) ac Atodlen 9;

(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(14), yn rheoliad 14(1);

(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001(15), yn rheoliad 9(2).

(3Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982(16)) ei hepgor.

(4I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC(17) caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC(18)) eu rhoi —

(a)yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(19), yn Atodlen 2;

(b)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(20), yn Atodlen 3 ac Atodlen 7.

(5Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Darpariaeth drosiannolLL+C

12.  Mewn unrhyw achos mewn cysylltiad â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir —

(a)marciwyd neu labelwyd y bwyd o dan sylw cyn 3 Awst 2003, a

(b)ni fyddai'r materion yr honnir eu bod yn dramgwydd, wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 fel yr oedd y Rheoliadau yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(21)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Rheoliadau 2, 3 a 6

ATODLEN 1LL+CCYNHYRCHION COCO A SIOCLED A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau NeilltuedigCynhyrchion Dynodedig

Nodiadau

1.

(1)

Yn ddarostyngedig i reoliad 3 a pharagraph (2) o'r Nodyn hwn, ceir ychwanegu sylweddau bwytadwy eraill at y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o''r Atodlen hon:

Ar yr amod nad yw'r paragraff hwn yn awdurdodi ychwanegu —

(a)

saim anifeiliaid a pharatodau a geir ohonynt nad ydynt yn deillio o laeth yn unig; neu

(b)

blodiau, starts mewn gronynnau neu starts powdr ac eithrio'n unol â'r diffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 o'r Atodlen hon; neu

(c)

sylweddau bwytadwy eraill a bod y cyfrannau ohonynt a ychwanegir yn fwy na 40 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig.

(2)

Dim ond y cyflasynnau hynny nad ydynt yn dynwared blas siocled neu saim llaeth y ceir eu hychwanegu at y cynhyrchion dynodedog a bennir yng nholofn 2 o eitemau 2, 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon.

2.

(1)

Caiff isafswm cynnwys y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon eu cyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon.

(2)

Yn achos y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon, caiff isafswm y cynhwysion ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon, yn ogystal â phwysau'r llenwad.

(3)

Caiff cynnwys siocled y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon ei gyfrifo mewn perthynas â chyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys y llenwad.

3.

Yn yr Atodlen hon, mae “sugars” yn cynnwys siwgrau yr ymdrinnir â hwy yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(22) a siwgrau eraill.

1.  Cocoa butter

Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol:—

  • nad yw mwy na 1.75 y cant o'i gynnwys yn asid brasterog rhydd (wedi'i fynegi fel asid oleig); aco ran saim coco wedi'i wasgu, nad yw mwy na 0.35 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (a bennir trwy ddefnyddio ether petroliwm);

  • neuo ran saim coco arall, nad yw mwy na 0.5 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (ac wedi'i bennu yn yr un modd).

2.—(aCocoa powder neu Cocoa

Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr.

(b)Fat-reduced cocoa neu Fat-reduced cocoa powder

Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych.

(c)Powdered chocolate neu Chocolate in powder

Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr.

(ch)Drinking chocolate neu Sweetened cocoa neu Sweetened cocoa powder

Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr.

(d)Fat-reduced drinking chocolate neu Fat-reduced sweetened cocoa neu Fat-reduced sweetened cocoa powder

Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath.

3.—(aChocolate

(a)Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco a siwgrau ac, yn ddarostyngedig i eitem 3(b), nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco, a dim llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.

(b)Os ychwanegir at “Chocolate”

(i)“vermicelli” neu “flakes”

(b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni ac nad oes llai na chyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 12 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.

(ii)“couverture”

(ii)Cynnyrch nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 31 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 2.5 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.

(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja”

(iii)Y cynnyrch siocled cnau a geir (1) o siocled y mae o leiaf cyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych ac isafswm o 8 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n solidau coco difraster sych, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel bod 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys dim llai nag 20 gram a dim mwy na 40 gram o gnau cyll; gellir fod wedi ychwanegu ato —

  • laeth, neu solidau llaeth sych a geir drwy anweddu, neu'r ddau, a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw mwy na 5 y cant o gynnwys y cynnyrch gorffenedig yn solidau llaeth sych;

  • cnau almon, cnau cyll a chnau o fathau gwahanol, naill ai'n gyfan neu mewn darnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.

4.—(aMilk chocolate

(a)Y cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth ac, yn ddarostyngedig i eitem 4(b) —

  • nad yw llai na chyfanswm o 25 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych;

  • nad yw llai nag 14 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl;

  • nad yw llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych;

  • nad yw llai na 3.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth;

  • nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).

(b)Os ychwanegir at “Milk chocolate” —

(i)“vermicelli” neu “flakes”

(b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni nad yw llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, dim llai na 12 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl ac nad yw llai na chyfanswm o 12 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).

(ii)“couverture”

(ii)Cynnyrch y mae o leiaf cyfanswm o 31 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).

(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja”

(iii)Y cynnyrch siocled llaeth cnau a geir (1) o siocled llaeth y mae isafswm o 10 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych, a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu' gyfan gwbl, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod cyfran y rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys llai na 15 gram ac nid mwy na 40 gram o gnau cyll; a gellid bod wedi ychwanegu ato gnau almon, cnau cyll a chnau o fathau eraill, naill ai'n gyfan neu'n ddarnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.

(c)Os rhoddir yn lle “Milk” —

(i)“cream”

(c)(i)Cynnyrch y mae isafswm o 5.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth.

(ii)“skimmed milk”

(ii)Cynnyrch nad yw mwy nag 1 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth.

5.  Family milk chocolate neu Milk chocolate

Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae —

  • nid llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych;

  • nid llai nag 20 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl;

  • nid llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych;

  • nid llai na 5 y cant yn saim llaeth;

  • nid llai na chyfanswm o 25 y cant yn saim (saim coco a saim llaeth).

6.  White chocolate

Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth.

7.  Filled chocolate neu Chocolate with ... ... ... ... filling neu Chocolate with ... ... ... ... centre

Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo.

8.  Chocolate a la taza

Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts.

9.  Chocolate familiar a la taza

Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts.

10.  A chocolate neu A praline

Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys:—

(a)

y cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 o'r Atodlen hon; neu

(b)

un siocled neu gyfuniad neu gymysgedd o siocled o fewn ystyr unrhyw ddiffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5 a 6 o'r Atodlen hon ac unrhyw sylwedd bwytadwy arall, ar yr amod nad yw'r siocled yn llai na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.

Rheoliadau 2 and 3

ATODLEN 2LL+CSEIMIAU LLYSIAU A AWDURDODIR

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol yr Atodlen hon, seimiau sy'n cyfateb i saim coco ac sy'n cydymffurfio â'r meini prawf canlynol, boed hynny wrthynt eu hunain neu'n gyfuniad ohonynt, yw'r seimiau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3:—LL+C

(a)seimiau llysiau nad lorel mohonynt, sy'n gyfoethog o ran triglyseridau cymesur monoannirlawn o'r math POP, POSt a StOSt;

(b)gellir eu cymysgu ni waeth beth fyddo'u cyfrannau gyda saim coco, ac maent yn gydweddol â'i nodweddion ffisegol (ymdoddbwynt a thymheredd crisialu, cyfradd toddi, yr angen am gyfnod tymheru);

(c)fe'u ceir yn unig trwy broses coethi neu broses ffracsiynu, neu'r ddwy, sy'n hepgor addasu'r strwythur triglyserid yn ensymatig.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

2.   I gydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 1 uchod, ceir defnyddio'r seimiau llysiau canlynol, a geir o'r planhigion a restrir yn y Tabl isod:—LL+C

Enw arferol y saim llysiauEnw gwyddonol y planhigion y gellir cael y seimiau a restrir ohonynt

1.  Illipe, Coeden wêr Borneo neu TengkawangLL+C

Shorea spp.

2.  Olew palmwyddLL+C

Elaeis guineensisElaeis olifera

3.  SalLL+C

Shorea robusta

4.  SheaLL+C

Burtyrospermum parkii

5.  Kokum gurgiLL+C

Garcinia indica

6.  Cnewllyn mangoLL+C

Mangifera indica

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

3.  Gellir defnyddio olew cneuen goco mewn siocled ar gyfer cynhyrchu hufen iâ a chynhyrchion tebyg wedi'u rhewi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

4.  Yn yr Atodlen hon —LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn cysylltiad â chynhyrchion coco a siocled a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19). Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau —

(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer cynhyrchion coco a siocled dynodedig (rheoliad 2 ac Atodlen 1);

(b)yn pennu'r brasterau llysiau, ac eithrio saim coco, y gellir eu hychwanegu at gynhyrchion siocled dynodedig (rheoliad 3 a Atodlen 2);

(c)yn cymhwyso'r Rheoliadau at gynhyrchion coco a siocled dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 4);

(ch)yn cyfyngu ar ddefnyddio disgrifiadau neilltuedig a hynny i'r cynhyrchion coco a siocled y mae'r disgrifiadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 5);

(d)yn ei gwneud yn ofynnol bod disgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig yn cael eu cymhwyso at gynhyrchion coco a siocled dynodedig ac yn rhagnodi'r dull o'u marcio neu o'u labelu (rheoliadau 6 a 7);

(dd)yn pennu cosb, cyfrifoldebau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reoli bwydydd yn swyddogol (OJ Rhif L186 30.6.1989, t.23) a'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (rheoliadau 8 a 9);

(e)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10);

(f)yn dileu'r esemptiad i gynhyrchion coco a siocled yn Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, dirymu'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 11 a 12).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi ei osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn y gorffennol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.

(5)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.

(6)

O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398.

(7)

OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad 152/2001 Cyd-bwyllgor yr AEE (OJ Rhif L65, 7.3.2002, t.26).

(9)

O.S. 1982/1727 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 1990/2486 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 1992/1476 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 1992/2596 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(17)

OJ Rhif L228 16.8.1973, t.23, fel y'i dirymwyd yn effeithiol o 3 Awst 2003 gan Gyfarwyddeb 2000/36/EC (OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19).

(18)

OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19.

(19)

O.S. 1995/3124 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(20)

O.S. 1995/3187; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1136.

(21)

1998 p.38.

(22)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.