- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, ATODLEN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 2, 3 a 6
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
Nodiadau 1. — (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3 a pharagraph (2) o'r Nodyn hwn, ceir ychwanegu sylweddau bwytadwy eraill at y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o''r Atodlen hon: Ar yr amod nad yw'r paragraff hwn yn awdurdodi ychwanegu — (a) saim anifeiliaid a pharatodau a geir ohonynt nad ydynt yn deillio o laeth yn unig; neu (b) blodiau, starts mewn gronynnau neu starts powdr ac eithrio'n unol â'r diffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 o'r Atodlen hon; neu (c) sylweddau bwytadwy eraill a bod y cyfrannau ohonynt a ychwanegir yn fwy na 40 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig. (2) Dim ond y cyflasynnau hynny nad ydynt yn dynwared blas siocled neu saim llaeth y ceir eu hychwanegu at y cynhyrchion dynodedog a bennir yng nholofn 2 o eitemau 2, 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon. 2. — (1) Caiff isafswm cynnwys y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon eu cyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon. (2) Yn achos y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon, caiff isafswm y cynhwysion ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon, yn ogystal â phwysau'r llenwad. (3) Caiff cynnwys siocled y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon ei gyfrifo mewn perthynas â chyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys y llenwad. 3. Yn yr Atodlen hon, mae “sugars” yn cynnwys siwgrau yr ymdrinnir â hwy yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(1) a siwgrau eraill. | |
1. Cocoa butter | Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol:—
|
2.—(a) Cocoa powder neu Cocoa | Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr. |
(b)Fat-reduced cocoa neu Fat-reduced cocoa powder | Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych. |
(c)Powdered chocolate neu Chocolate in powder | Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(ch)Drinking chocolate neu Sweetened cocoa neu Sweetened cocoa powder | Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(d)Fat-reduced drinking chocolate neu Fat-reduced sweetened cocoa neu Fat-reduced sweetened cocoa powder | Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath. |
3.—(a) Chocolate | (a)Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco a siwgrau ac, yn ddarostyngedig i eitem 3(b), nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco, a dim llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(b)Os ychwanegir at “Chocolate” (i)“vermicelli” neu “flakes” | (b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni ac nad oes llai na chyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 12 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(ii)“couverture” | (ii)Cynnyrch nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 31 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 2.5 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja” | (iii)Y cynnyrch siocled cnau a geir (1) o siocled y mae o leiaf cyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych ac isafswm o 8 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n solidau coco difraster sych, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel bod 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys dim llai nag 20 gram a dim mwy na 40 gram o gnau cyll; gellir fod wedi ychwanegu ato —
|
4.—(a) Milk chocolate | (a)Y cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth ac, yn ddarostyngedig i eitem 4(b) —
|
(b)Os ychwanegir at “Milk chocolate” — (i)“vermicelli” neu “flakes” | (b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni nad yw llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, dim llai na 12 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl ac nad yw llai na chyfanswm o 12 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth). |
(ii)“couverture” | (ii)Cynnyrch y mae o leiaf cyfanswm o 31 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth). |
(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja” | (iii)Y cynnyrch siocled llaeth cnau a geir (1) o siocled llaeth y mae isafswm o 10 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych, a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu' gyfan gwbl, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod cyfran y rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys llai na 15 gram ac nid mwy na 40 gram o gnau cyll; a gellid bod wedi ychwanegu ato gnau almon, cnau cyll a chnau o fathau eraill, naill ai'n gyfan neu'n ddarnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
(c)Os rhoddir yn lle “Milk” — (i)“cream” | (c)(i)Cynnyrch y mae isafswm o 5.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth. |
(ii)“skimmed milk” | (ii)Cynnyrch nad yw mwy nag 1 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth. |
5. Family milk chocolate neu Milk chocolate | Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae —
|
6. White chocolate | Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth. |
7. Filled chocolate neu Chocolate with ... ... ... ... filling neu Chocolate with ... ... ... ... centre | Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo. |
8. Chocolate a la taza | Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts. |
9. Chocolate familiar a la taza | Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts. |
10. A chocolate neu A praline | Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys:— (a) y cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 o'r Atodlen hon; neu (b) un siocled neu gyfuniad neu gymysgedd o siocled o fewn ystyr unrhyw ddiffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5 a 6 o'r Atodlen hon ac unrhyw sylwedd bwytadwy arall, ar yr amod nad yw'r siocled yn llai na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys